Ecsgliwsif: sengl a fideo newydd Pys Melyn

Bydd Pys Melyn yn rhyddhau eu sengl newydd, ‘Bywyd Llonydd’, ar label Ski Whiff Records ar ddydd Gwener 10 Mai.

Ond mae Y Selar yn falch iawn o allu cynnig cyfle cyntaf i chi glywed y sengl newydd, ynghyd â gweld y fideo ar gyfer y trac.

Dyma fydd ail sengl Pys Melyn eleni, yn dilyn ‘Anfarwol’,  a ryddhawyd ym mis Chwefror.

“Jyst cân neshi sgwennu ar ôl gweld cath yn cerddad mewn literal cylchoedd yn rwbio’i hun ar ochr recycling bins” meddai Ceiri o Pys Melyn wrth drafod o lle ddaeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gân newydd.

“Neshi sgwennu’r teitl cyn y geiria, a dwi’n meddwl bod hynny’n wbath sy’n helpu fi sgwennu.”   

“Cyfieithiad o ‘still life‘ [ydy’r teitl], ond pan ti’n cymud o allan o gyd-destun a jyst meddwl am be ma’r ddau air yna’n olygu ti’n cal darlun eitha weird yn dy ben”

Cân fwyn electronig yw ‘Bywyd Llonydd’ sy’n deillio o agweddau ac arferion ailadroddus sy’n perthyn i fodau dynol. Mae’r fideo sy’n cyd-fynd â’r sengl yn un hyfryd-lonydd a fel y trac yn creu darlun eithaf weird – mwynhewch y rhyfeddod ag ydy Pys Melyn!