Enwebu artistiaid Cymraeg ar gyfer Gwobrau Gwerin Radio 2

Mae nifer o artistiaid Cymraeg a Chymreig wedi eu henwebu ar gyfer Gwobrau Gwerin BBC Radio 2 eleni.

Enw amlwg ar y rhestr ydy Gwilym Bowen Rhys sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y categori ‘Canwr Gwerin y Flwyddyn’.

Mae Catrin Finch ar y rhestr fer ar gyfer y categori ‘Deuawd neu Grŵp Gorau’ gyda’r phartner cerddorol Seckou Keita.

Mae Finch a Keita hefyd ar restr fer ‘Albwm y Flwyddyn’ gyda’i record hir ‘Soar’, ac mae’r grŵp o’r Gogledd Ddwyrain, The Trials of Cato, yn ymuno â nhw ar y rhestr o 4 gyda’r casgliad ‘Hide and Hair’.

Mae un grŵp ar restr fer categori ‘Cân Draddodiadol Orau’ hefyd, sef VRï gyda’r trac ‘Ffoles Llantrisant’.

Cynhelir noson gyflwyno’r gwobrau yn Bridgewater Hall, Manceinion ar nos Fercher 16 Hydref a bydd Catrin Finch a Seckou Keita ymysg yr artistiaid sy’n perfformio.