Mae Papur Wal wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 9 Awst.
Un trac Cymraeg, ac un Saesneg sydd wedi eu rhyddhau’n ddigidol ganddynt ar label Recordiau Libertino, sef ‘O’n ni’n Ffrindia’ a ‘When He’s Gone’.
Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i’r triawd hyd yma eleni yn dilyn rhyddhau eu EP ‘Lle yn y Byd Mae Hyn?’ ym mis Mawrth, gan gigio’n rheolaidd ers hynny i hyrwyddo’r casgliad byr. Bu iddynt hefyd ffilmio fideo poblogaidd iawn ar gyfer y trac ‘Y Weriniaeth Tsiec’ ar gyfer Ochr 1.
Daw aelodau Papur Wal, sef Guto Rhys Huws, Gwion Ifor a Ianto Gruffudd, i gyd yn wreiddiol o’r Gogledd, ond maent wedi sefydlu eu hunain yng Nghaerdydd.
Roedd y grŵp i fod i ddathlu rhyddhau eu cynnyrch diweddaraf gyda gig ym Maes B yr Eisteddfod Genedlaethol nos Wener, nes i’r ŵyl ymylol gael ei gohirio oherwydd y rhagolygon o dywydd difrifol.
Yn lle hynny, bu iddynt berfformio fel rhan o noson funud olaf a drefnwyd yng nghlwb y Legion, ger sgwâr Llanrwst nos Sadwrn gyda 3 Hwr Doeth, Kim Hon, Mellt, Pys Melyn a Sen Segur hefyd yn perfformio.
Dyma ‘O’n ni’n Ffrindia’: