Mae’r grŵp o ardal Caernarfon, Achlysurol, wedi rhyddhau sengl newydd heddiw, 15 Tachwedd.
‘Sinema’ ydy enw’r sengl, ac mae’n cael ei rhyddhau’n ddigidol gan label Recordiau JigCal.
Bydd enw Achlysurol yn un gweddol anghyfarwydd i nifer mae’n siŵr, ond efallai bydd enwau’r aelodau yn fwy cyfarwydd. Achlysurol ydy Aled Emyr ar y gitâr fas a llais, Ifan Williams ar y gitâr ac Ifan Emyr ar y drymiau.
Mae gan aelodau’r band brofiad helaeth o chwarae mewn bandiau ac i artistiaid gwahanol o Gymru. Chwaraeodd Ifan Emyr gydag Eitha Tal Ffranco ac Alun Tan Lan yn ogystal â bod yn gyn aelod o Tamarisco gydag Aled Emyr.
Bu Ifan Williams mewn sawl band cyn ymuno ag Achlysurol hefyd – mae’n gyn aelod o Hud, Men Among Kings and Masters in France.
Ar ôl ffurfio nôl yn 2018 a rhyddhau dwy sengl ’25’ a ‘Szimpla’, mae’r band wedi bod yn recordio sawl sengl gyda’r cerddor Mei Gwynedd, sydd wrth gwrs yn reolwr ar label JigCal.
Mae’r grŵp yn cydweithio â’r Galeri yng Nghaernarfon i hyrwyddo’r sengl – i ddathlu dechrau wythnos ffilmiau Galeri, bydd cyfle i glywed y gân bob dydd yr wythnos hon cyn pob ffilm. Priodol iawn o ystyried enw’r trac wrth gwrs!