Rhyddhau ‘Yr Olaf’ gan 9Bach

Mae’r grŵp gwerin cyfoes, 9Bach, wedi rhyddhau fersiwn newydd o’r trac ‘Yr Olaf’ ddydd Gwener diwethaf, 8 Mawrth.

Roedd y trac ar albwm Anian gan 9Bach a ryddhawyd yn 2016, ond mae’r fersiwn newydd yn un acwstig sydd hefyd wedi ei chynnwys ar EP o draciau acwstig fydd yn cael ei ryddhau gan y grŵp ddiwedd mis Ebrill eleni.

Noeth ydy enw’r EP newydd , a bydd yn cael ei ryddhau ar 26 Ebrill. Lisa Jên a’i gŵr Martin Hoyland, sef aelodau craidd 9Bach ydy’r unig artistiaid sydd wedi cyfrannu at y recordiadau newydd.

Y pedwar trac sydd ar y casgliad byr newydd ydy ‘Llyn Du’, ‘Yr Olaf’, ‘Lliwiau’ a ‘Llwybrau’ – y bedair cân wedi ymddangos ar naill ai ail albwm y grŵp, Tincian (2014), neu’r trydydd Anian. Real World Records oedd yn gyfrifol am ryddhau’r ddau albwm, a nhw sy’n cyhoeddi’r EP newydd hefyd.

Yn y cyfamser, mae ‘Yr Olaf’ yn damaid i aros pryd ac yn rhoi blas o’r EP newydd i ni. Mae’r trac wedi’n ysbrydoli gan ffoto o Swdan, a’r rheino gwyn gwrywaidd olaf.

Mae’r gân wedi’i ysgrifennu o gyfeiriad y potsiwr sy’n ei hela, gyda chanwr 9 Bach, Lisa Jên, yn gofyn pa fath o berson sydd eisiau dinistrio rhywbeth mor anhygoel.

Dyma fideo o fersiwn acwstig o’r trac: