Sengl Ddwbl Sera

Mae’r gantores dalentog, Sera, wedi rhyddhau ei chynnyrch diweddaraf ar ffurf sengl ddwbl ers dydd Gwener diwethaf, 29 Mawrth.

‘Y Gost’ a ‘Cysgod y Gell’ ydy enwau’r traciau sydd wedi’u rhyddhau, ac maen nhw allan yn ddigidol dan adain label CEG Records. Roedd lansiad swyddogol y sengl yn siop recordiau Pie Records yn Llandrillo yn Rhos ddydd Gwener diwethaf gydag Eve Goodman yn cefnogi.

Meddai’r label am y traciau newydd:

“Mae ‘Y Gost’ yn berfformiad syfrdanol sy’n cyfuno dylanwadau gwerin, clasurol a pop, tra bod ‘Cysgod y Gell’ gyda mwy o naws gwerin/Americana, gan adrodd stori ei thaid, carcharor rhyfel o’r Wlad Pwyl a ymgartrefodd yng Nghymru.”

Cynhyrchwyd y sengl ddwbl gan Andi Bonsai, ac mae cyfraniad ar y ffidil gan Nico Crutwell-Jones.

Mae Sera yn llais cyfarwydd i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg ers sawl blwyddyn. Rhyddhaodd ei chynnych cyntaf ar label Recordiau Sain dan yr enw Sera Louise, gyda’r albwm cyntaf yn cael ei ryddhau yn 2006. Daw’r gantores yn wreiddiol o Gaernarfon.

Yn ôl pob tebyg, y sengl ddwbl ydy’r cyntaf mewn cyfres o gynnyrch newydd mae Sera’n cynllunio yn ystod 2019, gyda’r bwriad o ryddhau albwm ar ddiwedd y flwyddyn.

Yn ogystal â chynlluniau i ryddhau rhagor o gynnyrch, mae cyfres o gigs gan Sera wedi eu trefnu ar gyfer y misoedd nesaf.

Gigs Sera:

10 Mai – Tŷ Glyndwr, Caernarfon

18 Mai – Focus Wales, Wrecsam

23 Mai – Gŵyl Biwmares

21 Mehefin – Catch 22, Ynys Môn

31 Awst – Gŵyl Between the Trees, Merthyr Mawr

20 Medi – Catch 22, Ynys Môn

28 Medi – Clwb y Bont, Pontypridd

Dyma ‘Y Noson Gyntaf’ gan Sera oedd ar yr EP Collide, a ryddhawyd yn 2014:

Gadael Ymateb