Mae cynllun Gorwelion BBC Cymru wedi agor eu cronfa lansio ar gyfer 2020-21.
Bwriad y gronfa lansio flynyddol ydy helpu artistiaid a bandiau talentog o Gymru i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol trwy ddarparu cyllid hanfodol iddynt.
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r gronfa lansio ar gyfer artistiaid sy’n dechrau ar eu taith gerddorol, ac ar bwynt hanfodol yn eu datblygiad.
Y bwriad ydy fod y gronfa’n helpu cefnogi gweithgareddau a fydd yn helpu artistiaid neu fandiau i gyflawni eu potensial.
Ehangu cyrhaeddiad
Wrth ddewis ymgeiswyr llwyddiannus, mae Gorwelion yn chwilio am artistiaid a bandiau sy’n gallu dangos diddordeb ynddynt gan gynulleidfaoedd, ynghyd ag unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth (e.e. lleoliadau neu feirniaid / adolygwyr) ond sydd angen cefnogaeth i’w galluogi i gynnal gweithgaredd a fydd yn eu helpu i ehangu eu cyrhaeddiad.
Mae modd i ymgeiswyr geisio am hyd at £2,000 tuag at eu gweithgareddau, gyda’r dyddiad cau am hanner nos ar 18 Hydref.
Dywed Gorwelion ei bod yn bwysig cydnabod effaith y pandemig Covid-19. Yn hynny o beth, ac yn benodol gan fod cerddoriaeth byw wedi dod i stop, mae’n golygu bod rhaid dod o hyd i ffyrdd eraill o barhau i greu a rhannu cerddoriaeth yn ddiogel.
Mae’r cynllun yn annog ymgeiswyr i feddwl yn arloesol am sut gall cefnogaeth gan y gronfa lansio eu galluogi i wneud pethau’n wahanol.
Am fwy o wybodaeth ac i lawr lwytho ffurflen gais, dylai ymgeiswyr ymweld â gwefan y gronfa lansio.