Albwm Adwaith yn codi £160 i Tarian Cymru

Mae’r copi feinyl gwreiddiol arall o albwm Adwaith, Melyn, wedi’i werthu ar E-bay er bydd elusen Tarian Cymru gan godi £160.

Ymgyrch label Recordiau Libertino ydy hon i gefnogi elusen Tarian Cymru trwy gyfrannu 6 copi o record feinyl ‘Melyn’ gan Adwaith i’w gwerthu fel ocsiwn ar Ebay.

Cododd y copi cyntaf £150 nôl ym mis Mai, cyn i’r ail gopi fynd am £115.50.

Hwn ydy trydydd copi i werthu, ac mae un arall bellach ar werth ar y safle ocsiwn.

Mae’r record wrth gwrs yn un amlwg dros ben ar ôl derbyn clod o sawl cyfeiriad a chipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig llynedd.

Mae’r 6 copi sy’n mynd ar ocsiwn yn dod o rediad cyntaf y fersiwn feinyl – gwerthwyd pob copi o’r rhediad yma gwta bythefnos ar ôl rhyddhau’r albwm.

Yn ogystal â’r copi o Melyn, mae pawb sy’n prynu copi o’r ocsiwn i dderbyn copi wedi’i lofnodi o ail albwm Adwaith fydd allan yn 2021.

Gadael Ymateb