Cyhoeddi Fideo ‘Mwydryn’ gan Melin Melyn

Mae’r grŵp lliwgar Melin Melyn wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer eu sengl Gymraeg ‘Mwydryn’.

Rhyddhawyd y sengl yn wreiddiol adeg Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd fis Hydref diwethaf, a hon oedd y gân Gymraeg gyntaf iddynt ryddhau’n swyddogol.

Melin Melyn ydy Gruff Glyn (llais a gitâr), Will Barratt (gitâr), Cai Dyfan (dryms), Garmon Rhys (bas) ac Osian Gwynedd (piano) ac maen nhw wedi creu argraff gyda sioeau byw lliwgar a gwallgof dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r fideo newydd, a gyhoeddwyd ar sianeli ar-lein cyfres Lŵp, S4C ddydd Iau diwethaf, yn adlewyrchu cymeriad unigryw y grŵp.

‘Lot o fwydro’

Ffilmiwyd y fideo cyn i’r argyfwng Coronavirus daro, fel yr eglura ffryntman, a phrif egni’r grŵp, Gruff Glyn.

“Nathon ni ffilmio hi gwpl o fisoedd yn ôl gyda’r bencampwraig green screen arbennig – Edie Morris sydd o Gaerdydd. Mae lot o fwydro yn cael ei wneud ar y teledu, felly be gwell na dechrau sianel newyddion Melin Melyn!”

Mae’r fideo wedi’i seilio ar raglen newyddion deledu ‘spwff’, ac yn nodweddiadol o naws tafod ym moch Melin Melyn. Cafodd ei ffilmio yn Ysgol Treganna, ac Mae’n serennu rhai o blant yr ysgol

“Mae’r fideo yn cynnwys aelodau o’r band, actorion plant anhygoel, (Deio, Casi a Nel) a chath o’r enw Mwshi” meddai Gruff.

“Rydyn ni’n barod wedi dechrau gweithio ar fideo ar gyfer ein sengl newydd, fydd allan yn fuan gobeithio!”

“Da ni’n edrych ymlaen yn arw i gael chwarae yn fyw eto, unwaith ei bod hi’n ddiogel i neud hynny. Y gobaith ydi dechrau recordio albwm yn hwyrach yn y flwyddyn.”