‘Is There a World?’ – Sengl newydd Accü

Bydd Accü yn rhyddhau sengl newydd ddydd Gwener yma, 17 Ebrill.

Accü ydy prosiect diweddaraf Angharad van Rijswijk gynt o’r grŵp Trwbador. Fe ymddangosodd Accü gyntaf ar ddiwedd 2017 gan ryddhau’r albwm ardderchog, ‘Echo The Red’ yn Hydref 2018.

‘Is There a World?’ ydy cynnyrch cyntaf yr artist ers rhyddhau’r albwm llwyddiannus hwnnw a enwebwyd ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig llynedd.

Yn sicr mae Angharad yn un i fentro’n gerddorol, ac mae’r awydd i arbrofi wedi bod yn amlwg gyda Trwbador ac Accü – mae’n gyson yn chwilio am iaith gerddorol newydd i’w ddefnyddio i gyfathrebu ei neges.

Mae ‘Is There a World?’ yn crybwyll ymdeimlad melancolaidd 60au hwyr The Beatles, gyda chynhyrchiad niwlog CAN a phlentynrwydd syml alawon Kevin Ayers. Mae ‘Is There a World?’ yn gyfle i ddianc i fyd gwahanol Accü.

“Roeddwn i’n dod o bersbectif gwahanol iawn pan ysgrifennais y gân yn wreiddiol, a pan rwy’n chwarae fo’n ôl mae’n swnio’n gwbl wahanol” meddai Angharad wrth drafod y broses o ysgrifennu ‘Is There a World’.

“Mae’n od sut all bethau newid mewn ystyr mor gyflym, er gwaetha’r ffaith fod y cynnwys gwreiddiol heb newid o gwbl. Mae bywyd yn newid y cyd-destun yn dragywydd.’