Bydd Yr Eira yn rhyddhau eu sengl Saesneg newydd, ‘Middle of Nowhere’ ddydd Gwener yma, 1 Mai 2020.
Dyma’r trac diweddaraf i ymddangos o’r albwm, newydd, ‘Map Meddwl’, fydd allan ar 15 Mai ar label Recordiau I KA CHING.
Mae’r sengl newydd wedi’i dylanwadu arni gan grwpiau fel Temples a The Libertines gan greu trac seicadelig ond tempo uchel gydag ychydig o synth pop, gan ddwyn i’r cof cerddoriaeth artistiaid fel MGMT a Tame.
Mae geiriau ‘Middle of Nowhere’ yn plethu gwleidyddiaeth anghytsain gydag indie-pop. Yn y bon, cân am annibyniaeth i Gymru ydy hon.
‘Map Meddwl’ fydd eu hail record hir hyd yma – rhyddhawyd y gyntaf, ‘Toddi’ yn 2017, a chyn hynny yr EP ‘Colli Cwsg’ yn 2014.
Recordiwyd ‘Middle of Nowhere’ yn Stiwdio Sain, Llandwrog gydag Ifan Emlyn ac Osian Huw, gydag Eddie Al-Shakarchi yn gyfrifol am gymysgu a mastro.
Caiff y sengl ei rhyddhau’n ddigidol ar 1 Mai, ar y cyd â fideo animeiddiedig gan Joe Baines.