Sengl gyntaf Derw allan ddydd Gwener

Mae grŵp newydd o Gaerdydd, Derw, yn paratoi i ryddhau eu sengl gyntaf ddydd Gwener yma,  1 Mai 2020.

‘Dau Gam’ ydy enw’r trac newydd sy’n cael ei rhyddhau’n ddigidol ar label CEG Records.

Mae’r grŵp wedi’u dylanwadu arnynt gan waith grwpiau pop siambr fel The National ac Elbow, ac mae’r sengl yn ymdrin â’r ymdrech i ffeindio heddwch a sut mae’n teimlo weithiau fel bod yn ddieithryn yn eich meddwl eich hun.

Tyfu’n Dderw

Sefydlwyd y grŵp gan y cerddor Dafydd Dabson a’i fam, Anna Georgina gan gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2018, a chyrraedd y rownd derfynol.

Er na chafwyd llwyddiant yn Cân i Gymru, penderfynodd y ddau i ddal ati i ysgrifennu gyda’i gilydd, a tyfodd Derw o’r gwreiddiau hyn.

Hefyd yn y grŵp mae Elin Fouladi, y gantores Gymreig/Iranaidd, sy’n gyfarwydd hefyd fel El Parisa.

Mae’r enw Derw yn dod o enw tad Anna, Derwas ac mae ganddynt gysylltiad cryf â’r gorffennol a hanes eu teulu, sy’n llawn straeon cyfareddol.

Mae’r sengl newydd yn ran o EP ‘Yr Unig Rhai Sy’n Cofio’ fydd allan ym mis Medi, sydd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan gerddorion o’r grwpiau Zervas and Pepper, Afrocluster a Codewalkers.

Bwriad yr EP ydy sicrhau bod eu straeon teuluol yn aros mewn cof. Bydd ail sengl o’r casgliad byr yn cael ei rhyddhau fis Gorffennaf.

Dyma fersiwn acwstig, dan amgylchiadau ynysu, o’r sengl gyntaf: