Prosiect newydd bois SFA

Cyffrous i glywed y newyddion bod y rhan fwyaf o aelodau Super Furry Animals wedi dychwelyd gyda phrosiect newydd sbon.

Yr unig un sydd ar goll o’r band newydd ydy Gruff Rhys sydd wrth gwrs yn cadw’n brysur gyda’i brosiect unigol.

Das Koolies ydy enw band newydd Cian Ciaran, Dafydd Ieuan, Guto Pryce a Huw Bunford ac fe ryddhawyd eu sengl gyntaf, ‘It’s All About The Dolphins’ ar label Strangetown Records wythnos diwethaf (29 Ionawr).