Gig: Sera – Facebook Live – 17:30, Gwener, 17 Ebrill
Cadwch olwg am setiau ar-lein gan artistiaid dros y penwythnos.
Rydan ni am dynnu sylw’r arbennig ar sesiwn ddiwedd y prynhawn heddiw gan Sera, sy’n cael ei ‘lwyfannu’ gan CEG TV. Mae Sera’n cynnal rhain bob dydd Gwener, felly os ydach chi’n ei cholli heddiw, tiwniwch mewn wythnos nesaf.
Rhowch wybod am unrhyw sesiynau eraill tebyg sydd ar y gweill i ni gael rhannu.
Cân: ‘Parti Grwndi’ – Kim Hon
Mae sengl newydd sbon Kim Hon allan heddiw!
‘Parti Grwndi’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos gan y grŵp gwych a ffrwydrodd o unlle yn ystod 2019.
Recordiau Libertino sy’n rhyddhau, ac yn ôl y label mae ‘Parti Grwndi’ yn ‘ran arall o jig-sô kaleidoscopig KIM HON o orwel cerddorol sydd heb gael ei archwilio eto’.
Anodd credu mai dim ond blwyddyn sydd ers i Kim Hon ymddangos gyntaf. Ffrwydrodd y grŵp ar y sin gyda’r sengl wych ‘Twti Ffrwti’ ym mis Mai llynedd, ac aethant o nerth i nerth yn ystod 2019 gan gipio teitl ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror eleni.
Iwan Fôn, sydd hefyd yn aelod o Y Reu, ydy ffryntman Kim Hon, ac mae’n crynhoi’r gân newydd yn ei ddull unigryw a di-hafal…
“’Parti Grwndi. Ganwyd y term tra’n ymdrochi mewn uwd o wallgofrwydd ym Mhortmeirion. Yna, cafodd ei fagu ym Mangor ac erbyn heddiw mae wedi tyfu i fod yn gawr.”
“Olwyn sy’ wastad yn troi ydi ‘Parti Grwndi’ sydd yn ffynnu ar benderfyniadau annoeth” ychwanega Iwan.
“Er ein ymdrechion i’w slofi neu hyd yn oed i’w stopio yn stond, cyflymu yn ddi-reolaeth mae’r olwyn.”
“Pam grwndi? Fel cath yn canu grwndi yn braf tra’n cael mwytha, mae Parti Grwndi yn fwytha neu’n goflaid sy’n tywys ni i’r niwl lliwgar, yn bell o pob rheol, dyletswydd a phoen. Ond mae pris i’w dalu am reidio’r olwyn hon.”
Os oeddech chi’n hoffi ‘Twti Ffrwti’ yna byddwch chi’n hoffi hon – tiiiiwn!
Record: Llyfrau Hanes – Alun Gaffey
Wedi iddo ryddhau cyfres o senglau fel tameidiau i aros pryd, o’r diwedd mae albwm newydd Alun Gaffey allan yn swyddogol heddiw.
Rhyddhawyd y diweddaraf o’r senglau hynny, ‘Arwydd’, ddechrau mis Ebrill gan ddilyn ‘Yr 11eg Diwrnod’ a ryddhawyd ym mis Ionawr, ‘Rhosod Pinc’ ar 7 Chwefror, a ‘Bore Da’ a ymddangosodd ddechrau mis Mawrth.
Nawr mae modd gwrando ar y cyfan fel cyfanwaith, wrth i Llyfrau Hanes gan ei ryddhau ar label Recordiau Côsh.
Llyfrau Hanes ydy ail albwm y cyn aelod Pwsi Meri Mew, Radio Luxemburg a Race Horses – rhyddhawyd y cyntaf, sy’n rhannu enw’r cerddor, yn 2016
Recordiwyd yr albwm yn stiwdio Frank Naughton rhwng 2016 a 2019, ac mae’r cynhyrchydd ei hun yn ymddangos ar ambell drac hefyd.
“Roeddwn i’n dod a dylanwadau cerddorol eang i mewn i’r stiwdio, ond ar yr un pryd yn ceisio creu rhywbeth gwreiddiol” meddai Alun wrth drafod y broses recordio.
Mae’r albwm newydd yn ymdrin â’r themâu o orbryder, tristwch am gyflwr y blaned, hiraeth am oes a fu a phryder am ddyfodol dystopaidd – pynciau sy’n fwy perthnasol nag erioed ar hyn o bryd!
“Dwi’n credu roeddwn i, ar lefel isymwybodol, yn meddwl lot am etifeddiaeth. Fy etifeddiaeth bersonol i ar y blaned ‘ma yn ogystal â’n hetifeddiaeth fel dynolryw. Serch hynny, mae ‘na ganeuon positif iawn ar yr albwm hefyd!”
Mae’r albwm ar gael yn ddigidol yn unig ar hyn o bryd oherwydd y sefyllfa Covid-19, ond bydd fersiwn CD yn cael ei ryddhau unwaith bydd y byd yma’n dechrau dod nôl i drefn.
Dyma sengl ddiweddaraf yr albwm, ‘Arwydd’:
Artist: Accü
Artist sydd heb gael sylw ganddom ni ers peth amser ydy Accü, ond mae sengl newydd gan y prosiect allan heddiw.
Accü ydy prosiect diweddaraf Angharad van Rijswijk gynt o’r grŵp Trwbador. Fe ymddangosodd Accü gyntaf ar ddiwedd 2017 gan ryddhau’r albwm ardderchog, ‘Echo The Red’ yn Hydref 2018.
‘Is There a World?’ ydy cynnyrch cyntaf yr artist ers rhyddhau’r albwm llwyddiannus hwnnw a enwebwyd ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig llynedd.
‘Is There a World?’ ydy enw sengl newydd Accü, ac mae’n crybwyll ymdeimlad melancolaidd 60au hwyr The Beatles, gyda chynhyrchiad niwlog CAN a phlentynrwydd syml alawon Kevin Ayers.
“Roeddwn i’n dod o bersbectif gwahanol iawn pan ysgrifennais y gân yn wreiddiol, a pan rwy’n chwarae fo’n ôl mae’n swnio’n gwbl wahanol” meddai Angharad wrth drafod y broses o ysgrifennu ‘Is There a World’.
“Mae’n od sut all bethau newid mewn ystyr mor gyflym, er gwaetha’r ffaith fod y cynnwys gwreiddiol heb newid o gwbl. Mae bywyd yn newid y cyd-destun yn dragywydd.’
Gobeithio gallwn ni ddisgwyl mwy gan Angharad yn y dyfodol agos.
Un peth arall: Fideo sesiwn ynysu Lewys
Neithiwr roedd Y Selar yn falch iawn o allu rhannu ecsgliwsif bach ar ffurf fideo newydd sbon sydd wedi’i greu gan aelodau Lewys wrth iddynt ynysu yn eu cartrefi.
Mae’n debyg fod y pedwarawd wedi bod yn brysur yn gweithio ar sesiynau dros yr wythnosau diwethaf, a ffrwyth cyntaf y llafur yma ydy fideo arbennig ‘Hel Sibrydion’.
I feddwl mai prosiect DIY go iawn dan amgylchiadau heriol ydy’r fideo yma, mae’n rhaid cyfaddef fod y safon y cynhyrchiad yn arbennig o uchel.
Canwr a gitarydd y band, Lewys Meredydd, sydd wedi cynhyrchu’r sesiwn ar ei laptop, ac mae wedi datgelu wrth Y Selar sut aeth ati i wneud hynny…
“Nathon nhw yrru pob trac i fi, a nes i gymysgu nhw ar Ableton Live 10 gan iwsho trac Rich Roberts fatha reference” meddai Lewys.
“Nath Geth wedyn ddefnyddio software golygu fideos i roi’r clips i gyd at ei gilydd ar ben y tras nes i greu. Digon hawdd neud o i gyd ar iMovie neu rwbath ar dy ffôn rili!”
“Neu, os di pobl isio neud fersiwn symlach, ma’n bosib lawr lwytho app ‘acapella’ a gwneud be mae lot o artistiaid Cymraeg wedi bod yn neud yn ystod y cwatantin ‘ma.”
Cofiwch fod albwm cyntaf Lewys, Rhywbryd yn Rhywle, rŵan a gallwch archebu copi CD a chynnyrch arall y band ar-lein nawr.
Dyma fideo’r sesiwn: