Set rhithiol: Yr Eira, Mared, Eädyth – Amgueddfa Lechi Cymru
Er bod y gigs rhithiol wedi prinhau rhywfaint yn ddiweddar, roedd yn reit braf gweld perfformiadau cerddorol fel rhan o Ŵyl Fwyd Digidol Amgueddfa Cymru penwythnos diwethaf.
Roedd cyfle i weld setiau ‘byw’ gan rai o’n hartistiaid mwyaf cyffrous ar hyn o bryd gan gynnwys Yr Eira oedd yn perfformio yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ar Facebook Live nos Sadwrn.
Yn ystod y dydd hefyd darlledwyd setiau byr gan Mared ac Eädyth, ac mae modd gwylio rhain eto ar dudalen Facebook y digwyddiad neu isod:
Cân: ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ – HMS Morris
Mae HMS Morris wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ yr wythnos hon.
Rhyddhawyd y trac ddydd Mercher, 16 Medi, ac mae’n cwblhau cyfres o dair sengl ganddyn nhw eleni’n dilyn ‘Babanod’ a ‘Poetry’ a ryddhawyd ar ddechrau’r flwyddyn.
Mae’r sengl newydd yn dwyn dylanwad o amgylchedd y grŵp yn y Brifddinas ac yn arbennig felly o un o strydoedd mwyaf amlddiwylliannol Caerdydd, sef City Road.
Mae’r ardal yn gawl gosmopolitaidd o fwytai, bariau shisha a barbwyr, sydd yn ddiweddar wedi eu gorlethu gan neuaddau preswyl posh i fyfyrwyr.
Er mai y broblem enbyd hon yn y ddinas oedd yr ysgogiad gwreiddiol i ‘Myfyrwyr Ryngwladol’, erbyn iddi galedu’n deimlad a sain pendant roedd hi wedi esblygu i fod yn rhywbeth gwahanol. Doedd hi ddim yn rant am neuaddau myfyrwyr bellach, ond yn hytrach yn fyfyrdod ar gymaint o le gwell fyddai’r byd petaem ni i gyd yn fyfyrwyr rhyngwladol.
Mae marwolaeth George Floyd yn Minneapolis fis Mai eleni wedi dylanwadu ar ffordd HMS Morris o feddwl, ac ar eu dehongliad o’r trac. Dywed y grŵp ei bod yn ddyletswydd moesol arnom ni i gyd i astudio’r rhyngwladol – i wylio’r newyddion, i’w ystyried yn ofalus, ac i ddysgu ac addasu ein hymddygiad.
Gyda ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ mae HMS Morris yn annog pawb i drochi mewn diwylliannau eraill, yn union fel y mae myfyrwyr rhyngwladol City Road yn gwneud.
Record: Ynys Araul – Ani Glass
Yn dilyn yn dynn ar sodlau llwyddiant ysgubol ei halbwm cyntaf, Mirores, roedd yn dda gweld Ani Glass yn rhyddhau EP newydd wythnos diwethaf.
Nid EP traddodiadol ydy hwn cofiwch, ond yn hytrach casgliad o fersiynau o’r trac ‘Ynys Araul’ a ymddangosodd ar Mirores.
Yn ogystal â fersiwn wreiddiol y trac sy’n rhannu teitl y record fer, mae’r EP hefyd yn cynnwys tri fersiwn wedi’u hail-gymysgu o’r trac – un gan y grŵp electronica amlwg OMD (Orchestral Manoeuvres in the Dark) ac un yr un gan Seka a Venus on the Half Shell.
Tydi ail-gymysgu traciau ddim yn beth newydd, ond mae fel petai wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ddiweddar, ac yn sicr felly dros y cyfnod clo.
Ac mae’n sicr yn arfer difyr ac fel arfer yn ychwanegu rhywbeth i’r traciau gwreiddiol wrth i gerddorion dynnu ar, ac amlygu agwedd benodol o’r gerddoriaeth wreiddiol. Yn sicr mae’r tri cerddor sydd wedi mynd ati i gyflwyno eu fersiwn o ‘Ynys Araul’ i gyd wedi bachu ar agwedd gwahanol a chreu rhywbeth difyr.
Mae modd cael gafael ar yr EP ar safle Bandcamp Ani, neu ar siop gwefan Recordiau Neb.
Dyma fersiwn gwych Seka o ‘Ynys Araul’:
Artist: Static Inc
Mae’r grŵp roc newydd o Gaerdydd, Static Inc, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf yn ddigidol, sef ‘Tangelo’.
Er fod y grŵp yn enw newydd, mae’r trac wedi bod ar y gweill ers cryn amser mae’n ymddangos.
“Rydym wedi bod yn gweithio ar y gân ers 2018 – mi wnaethon ni ddechrau recordio bron dwy flynedd union cyn i ni ei rhyddhau” eglura Dan o’r grŵp.
“Recordiwyd y gân ar ein dyddiau bant o’r day jobs, yn nhai ein gilydd lle’r oedd gennym ystafelloedd recordio syml wedi’i gosod.”
Yn debyg iawn i Ani Glass a HMS Morris uchod, mae amgylchedd dinas Caerdydd, sef cartref aelodau Static Inc, wedi dylanwadu’n fawr ar sŵn y band.
“Penderfynom ni ein bod ni eisiau ysgrifennu cerddoriaeth gyda themâu metropolitaidd, gan nad oedden ni’n teimlo bod digon o safbwyntiau Cymraeg ar y cysyniad yna” eglura Dan.
“Felly mi wnaeth Siôn, prif gyfansoddwr y grŵp, ysgrifennu am broblemau gentrification a gor-ddatblygu yn ein dinas, Caerdydd.”
Yn gerddorol mae gwaith y grŵp wedi’i ddylanwadu arno gan grwpiau fel Cocteau Twins, Talking Heads a Santana, a hynny’n creu “concrete jungle” i ddefnyddio geiriau Dan sy’n symud o heddwch i ‘hectic’ yn sydyn, fel bywyd yn y ddinas.
Cynhyrchwyd y gân gan Dan ei hun, a dywed ei fod wedi anelu at awyrgylch ‘lived-in’ trwy ddefnyddio offerynnau a chyfarpar sydd ddim yn rhy ddrud, a thechnegau recordio syml ond anarferol.
Dyma’r dechra i Static Inc, ac mae’n ddechrau da iawn, ond yn ôl y grŵp gallwn ddisgwyl tipyn mwy o gerddoriaeth ganddyn nhw yn y dyfodol agos.
Un peth arall: Set Dydd Glyndŵr Gwilym Bowen Rhys
Roedd cyfle i weld Gwilym Bowen Rhys yn perfformio set rhithiol nos Fercher diwethaf, sef Dydd Owain Glyndŵr (16 Medi).
Roedd y perfformiad arbennig yn cael ei lwyfannu ar dudalen Facebook Menter Iaith Bangor ac mae tua 6000 o bobl wedi gwylio’r set yn barod!
Boi poblogaidd, a be well i ddathlu diwrnod tywysog olaf Cymru.