Gig: Lowri Evans – Gig Cartref Gwaelod – Facebook
Fel y gwyddoch chi, dan yr amgylchiadau presennol rydan ni wedi bod yn tueddu i edrych yn ôl ar gigs rhithiol yr wythnos a fu yn ddiweddar, yn hytrach nag edrych ‘mlaen at rai sydd ar y gweill.
Roedd cwpl o gigs digidol bach da wythnos diwethaf, ac yn benodol felly ddydd Sul.
Yn gyntaf, lansiad Gigs Cartref Gwaelod. Prosiect bach ydy hwn gan drefnwyr Gigs Cantre’r Gwaelod yn Aberystwyth, sydd fel arfer yn digwydd ddiwedd yr haf yn y Bandstand yn Aber. Yn anffodus, fyddan nhw ddim yn digwydd eleni o ganlyniad i’r amgylchiadau, ac fel ymateb mae’r criw wedi mynd ati i drefnu cyfres o gigs rhithiol. Roedd y cyntaf ddydd Sul, a hynny ar ffurf sgwrs a chân gyda Lowri Evans:
Lansiad Gigs CARTREF Gwaelod gyda Lowri Evans & Lee MasonI ddangos eich gwerthfawrogiad i Lowri a Lee beth am wneud cyfraniad yn uniongyrchol iddyn nhw trwy glicio https://www.paypal.me/leemasonshimimusicAc os hoffech brynu CD neu nwyddau Lowri a Lee cliciwch yma: http://www.lowrievans.co.uk/
Posted by Gigs Cantre'r Gwaelod on Sunday, 24 May 2020
Gig arall dydd Sul oedd ‘Sesiwn Sul’ Clwb Ifor Bach gydag un o fandiau prysuraf y cloi mawr, sef Mellt. Roedd y gig ar Instagram Clwb Ifor.
Un peth arall ddigwydd ddydd Sul diwethaf oedd darllediad uchelgeisiol ‘Gŵyl Corona’ gan Radio Ysbyty Gwynedd. Darlledwyd hwn ar dudalen Facebook yr ysbyty, ac maen debyg bod dros 23,000 wedi gwylio / gwrando.
Rhowch wybod am unrhyw beth arall sydd ar y gweill er mwyn i ni allu rhannu.
Cân: ‘Dan Dy Draed’ – Endaf ac Ifan Pritchard
Mae partneriaeth newydd a difyr iawn yn rhyddhau eu sengl gyntaf heddiw ar label High Grade Grooves.
Un hanner y bartneriaeth ydy’r cerddor electronig o Gaernarfon, Endaf, a’r llall ydy canwr a gitarydd y grŵp poblogaidd Gwilym, sef Ifan Pritchard.
‘Dan dy Draed’ ydy enw’r trac newydd fydd allan yn swyddogol ar 29 Mai, ac yn ôl y label mae’n plethu melodïau pop hafaidd Ifan gyda rhythmau hypnotig Endaf i greu rhywbeth unigryw iawn.
Mae’r ddau artist yn rhan o gynllun Gorwelion BBC Cymru ar hyn o bryd, ac mae nifer o’r artistiaid sydd ar y cynllun eleni wedi bod yn cyd-weithio mewn modd tebyg.
Mae Endaf hefyd wedi bod yn cyd-weithio gyda cherddorion Cymraeg amlwg eraill yn ddiwedd, gan gynnwys rhyddhau sengl ar y cyd gydag Ifan Dafydd ac Eadyth ym mis Chwefror.
Mae’n debyg i’r ddau ddechrau trafod wrth berfformio yn stiwdios enwog Maida Vale gyda chynllun Gorwelion, gan benderfynu mynd ati i gydweithio ar y sengl.
Er bod y bartneriaeth ddiweddaraf yma rhwng y cynhyrchydd electro a ffryntman grŵp indi-pop mwyaf poblogaidd Cymru yn ymddangos fel un anarferol, mae o’n gweithio’n eithriadol o dda, ac mae ‘Dan Dy Draed’ yn diwn a hanner.
Record: Mirores – Ani Glass
Nid fod angen unrhyw esgus i roi sylw i Ani Glass, ond mae rheswm da dros roi bach o sylw i’r albwm yma a ryddhawyd ddechrau mis Mawrth yr wythnos hon.
Y rheswm hwnnw ydy’r ffaith fod nifer cyfyngedig o gopïau CD coch o albwm cyntaf Ani wedi eu rhyddhau i’w prynu ar wefan label Recordiau NEB penwythnos diwethaf.
Rhyddhawyd yr albwm ar 6 Mawrth, gyda dim ond 110 o gopïau caled o’r record hir ar gael i’w prynu ar CD cyfyngedig.
Yn wreiddiol roedd y cyfle cyntaf i brynu’r CDs yn mynd i fod ar gael i’r rhai oedd yn mynd i’r gigs lansio, ond yn anffodus bu’n rhaid gohirio dwy o’r sioeau hynny yn Wrecsam a Chaerfyrddin o ganlyniad i’r argyfwng COVID-19.
Does dim gobaith ail-drefnu’r gigs hynny yn y dyfodol agos, felly mae NEB wedi cyhoeddi bod CDs sydd ar ôl ar werth ar eu gwefan. Wrth i ni ysgrifennu’r darn yma roedd dal rhai copïau ar ôl ond bosib iawn byddan nhw wedi mynd erbyn i chi ddarllen hwn!
Dyma’r trac anhygoel sy’n rhannu enw’r albwm:
Artist: Lleuwen
Un artist sydd heb fod yn segur o gwbl yn ystod cyfnod y cloi mawr ydy Lleuwen, ac mae sengl newydd ganddi wedi’i ryddhau ar ei safle Bandcamp ers penwythnos diwethaf.
‘Cariad Yw’ ydy enw’r trac newydd gan y gantores unigryw sy’n dod o ardal Bethesda yn wreiddiol, ond sy’n ynysu yn Llydaw ar hyn o bryd.
Mae Lleuwen wedi bod yn brysur yn ystod y cyfnod ynysu gan berfformio ambell gig rhithiol o’i atig yn Llydaw. Yn wir, mae’r sengl newydd wedi’i recordio yn yr atig hwnnw hefyd “gydag ipad a chalon lawen” i ddefnyddio geiriau Lleuwen.
Efallai mai amgylchiadau arbennig y cyfnod yma, a’r broses recordio i Lleuwen, sy’n rhoi naws bach yn wahanol i’r trac o’i gymharu â cherddoriaeth ddiweddar y gantores – mae’r sŵn bach mwy electronig yn sicr. Wedi dweud hynny, os ydach chi’n ffan o waith Lleuwen, byddwch chi wrth eich bodd gyda hon.
📢Cân newydd📢 dyma hi. Cariad Yw. Diolch i Lisa Gwilym am ei chwarae am y tro cyntaf ar BBC Radio Cymru a diolch am…
Posted by Lleuwen Steffan on Saturday, 23 May 2020
Un peth arall: Lucy Jenkins
Mae’r Selar wedi bod yn ymwybodol iawn o ddoniau animeiddio Lucy Jenkins ers peth amser, ac wythnos diwethaf roedd ffilm ddogfen fer amdani ar gyfres Lŵp, S4C.
Efallai bydd Lucy’n fwy cyfarwydd i chi trwy ei enw handlen Twitter, sef Drawn To Ice Hockey (@drawn_to_hockey). Daeth i’n sylw ni’n gynnar yn 2019 diolch i’w fideo animeiddiedig gwych ar gyfer ‘Tafla’r Dis’ gan Mei Gwynedd.
Yn y ffilm fer newydd mae Lucy’n trafod rhywfaint o’i chefndir fel artist, a sut ddaeth y cyfle i weithio ar fideos cerddoriaeth.
Sylw teilwng i artist gwych – rydan ni’n sicr yn edrych ymlaen at weld mwy o waith Lucy, a’i gyrfa’n mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd nesaf.