Mae Ail Symudiad, un o grwpiau mwyaf cyfarwydd Cymru ers hanner canrif bellach, wedi rhyddhau nifer o recordiau o’u hôl gatalog yn ddigidol am y tro cyntaf wythnos diwethaf.
Y brodyr Wyn a Richard Jones ydy asgwrn cefn y grŵp o Aberteifi. Rhyddhawyd eu cynnyrch cynharaf ar eu label eu hunain, Fflach, a ffurfiwyd ym 1981, cyn mynd ati i ryddhau sawl record ar label Recordiau Sain.
Yna, trodd y grŵp yn ôl at eu label eu hunain gan gyhoeddi cyfres o recordiau ardderchog, yn ogystal â chynnyrch nifer helaeth o grwpiau ac artistiaid eraill.
Ers dydd Mercher diwethaf (29 Ebrill), mae hanner dwsin o’r recordiau a ryddhawyd ar Fflach ar gael ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf, sef:
Yr Oes Ail (2002)
Pippo ar Baradwys (2006)
Anifeiliaid ac Eraill (2008)
Riviera Gymreig (2011)
Anturiaethau y Renby Toads (2012)
Stori Wir (2016)
Dyma un o glasuron yr albwm Yr Oes Ail, ‘Whisgi a Soda’: