Bydd y gantores sy’n fwyaf adnabyddus fel prif leisydd ac enigma y grŵp Rogue Jones, sef Bethan Mai, yn rhyddhau sengl a fideo ar ddydd Gwener 31 Gorffennaf.
‘Wedi Mynd’ ydy’r trac dan sylw, a bydd y fideo newydd i’w weld am y tro cyntaf ar wefan y cylchgrawn barddoniaeth a diwylliant, Y Stamp.
Daw’r sengl o’r EP ‘Bach’ a ryddhawyd gan Bethan ym Mehefin 2017 ar label Recordiau Blinc.
Gyda ‘Wedi Mynd’ mae llais syml a phruddglwyfus Bethan, a’r darn piano aflonydd yn deffro teimlad o hiraeth dwfn. Yn ôl y label, yn yr achos hwn, hiraeth am glywed rhagor o’i cherddoriaeth swyngyfareddol ydy’r hiraeth hwnnw.
Dywed Blinc fod ‘Wedi Mynd’ yn drac sy’n tawelu’r ysbrydion a throi’r enaid mewn cyfnod ble mae angen i ni gael ein cysuro.
Mae’r EP ‘Bach’ gan Bethan Mai ar gael ar y prif lwyfannau digidol, ac wedi derbyn adolygiadau ffafriol o sawl cyfeiriad.