Albwm Cymraeg yn uchel ar restr cylchgrawn Mojo

Mae cylchgrawn cerddoriaeth enwog Mojo wedi cynnwys albwm ‘Mas’ gan Carwyn Ellis a Rio 18 yn y 10 uchaf ar eu rhestr Albyms Cerddoriaeth Byd y Flwyddyn.

Rhyddhawyd ‘Mas’ ym mis Chwefror 2021, fel ail record hir prosiect Carwyn Ellis & Rio 18.

Mae Mojo wedi cynnwys yr albwm yn safle rhif 7 ar y rhestr albyms Cerddoriaeth Byd gorau 2021 yn rhifyn diweddaraf y cylchgrawn (rhifyn Ionawr 2022).