Albwm Nadoligaidd Gwen Màiri

Bydd y gantores  Albanaidd-Gymreig, Gwen Màiri, yn rhyddhau albwm newydd ar 19 Tachwedd.

Mae Gwen yn delynores a chantores gwerin uchel iawn ei pharch sy’n rhannu ei hamser rhwng Yr Alban a Chymru.

Er hynny, mae’n dwyn ei dylanwadau ar gyfer ei chynnyrch diweddaraf o Wlad y Basg.

‘Douze Noëls’ ydy enw’r record ddiweddaraf ganddi, ac mae’n gasgliad o ddeuddeg o noëls, neu garolau, o Wlad y Basg sy’n cael eu perfformio ar y delyn Geltaidd.