Bwncath yn cipio’r goron driphlyg

Bwncath sydd wedi cipio dwy wobr olaf Gwobrau’r Selar eleni, gan ei gwneud hi’n gyfanswm o dair gwobr i gyd i’r grŵp gwerin eleni.

Cyhoeddwyd yn fyw ar raglen Tudur ar Radio Cymru y prynhawn yma mai Bwncath oedd wedi dod i frig y bleidlais gyhoeddus i ennill y wobr ‘Band Gorau’, a’u bod hefyd wedi cipio’r teitl ‘Record Hir Orau’ (noddir gan Rownd a Rownd) am eu hail albwm, Bwncath II.

Roedd y grŵp eisoes wedi ennill un wobr ddoe, sef ‘Fideo Gorau’ (noddir gan S4C) am y fideo ‘Dos yn Dy Flaen’ gyda gwaith animeiddio a chyfarwyddo gan Lleucu Non.

Roedd Elidir Glyn, prif ganwr Bwncath yn sgwrsio gyda Tudur ar ei raglen ac fe ddarlledwyd sesiwn arbennig ganddo hefyd wrth gyhoeddi’r newyddion. Gallwch wrando nôl ar y rhaglen ar BBC Sounds.

Rhestr lawn enillwyr Gwobrau’r Selar.