Cyhoeddi Llysgenhadon Anthem

Mae elusen Anthem. Cronfa Gerdd Cymru, sy’n anelu at rymuso bywyd pobl ifanc yng Nghymru trwy gerddoriaeth, wedi cyhoeddi enwau eu llysgenhadon newydd.

Y tri llysgennad ydy Kizzy Crawford, Catrin Finch a Huw Stephens – cyfuniad o gerddorion ac arbenigwyr diwydiant cerddoriaeth sydd wedi gwneud eu marc yng Nghymru, ac yn rhyngwladol, ac a fydd yn ôl yr elusen yn dod â’u hangerdd at gerddoriaeth a phobl ifanc yng Nghymru i Anthem.

Bydd y tri yn helpu i eirioli, ysbrydoli a meithrin amrywiaeth cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru.

Yn ôl Anthem, cafodd y tri llysgennad fynediad at gerddoriaeth yn ifanc, gan ddatblygu eu galluoedd a manteisio ar gyfleoedd yn y diwydiant.

Nawr maen nhw am gymryd y cyfle i wneud yn siŵr y gall y cenedlaethau nesaf o bobl ifanc gael eu hysbrydoli a derbyn cyfleoedd fel y gwnaethon nhw.

Catalydd

Mae Anthem yn gatalydd i gerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru, yn ariannu gwaith a fydd yn creu newid, yn gwneud cysylltiadau i ehangu gwaith partneriaeth, ac yn galluogi’r arferion gorau i ffynnu. Mae lleisiau pobl ifanc yn ganolog i’r gwaith ymchwil a wneir gan yr elusen ac yn ei gweithgareddau i’r dyfodol.

“Mae cerddoriaeth mor bwysig i bobl ifanc ac rydym eisiau gwneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u cefnogi” meddai Prif Weithredwr Anthem, Rhian Hutchings.

“Mae cerddoriaeth yn rym nerthol i bobl ifanc sy’n hybu hunanfynegiant, datblygiad personol a llesiant.

“Ein huchelgais yn Anthem yw galluogi mynediad i gerddoriaeth, creu cyfleoedd ar draws genres a chymunedau, a meithrin talent amrywiol i gymryd y camau nesaf at yrfaoedd cerddorol.

“Rydym wrth ein bodd y bydd Catrin, Huw a Kizzy yn ymuno â theulu Anthem ac yn gweithio gyda ni i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a chreu cyfleoedd cerddorol i unrhyw berson ifanc yng Nghymru sy’n wynebu rhwystrau.”

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y llysgenhadon yn helpu Anthem i greu cysylltiadau a helpu i ddatblygu cyfleoedd i’r Sector Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru.

Byddant yn helpu i lansio partneriaeth ag Youth Music i fynd i’r afael â rhwystrau i gerddoriaeth sy’n wynebu pobl ifanc yng Nghymru, menter i greu porth digidol i gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru, ac effaith gynyddol Fforwm Ieuenctid Cerddoriaeth Cymru.

Llwyfan gwych i artistiaid

Mae’r Llysgenhadon wedi dechrau ar eu gwaith gydag Anthem drwy gyfrannu at y gyfres bodlediad newydd, Amplify, gyda Kizzy Crawford yn sgwrsio gyda’r cyflwynydd Ify Iwobi yn y bennod ddiweddaraf, ‘Why Music is so Important to young people’s Mental Health.”

“Rwy’n meddwl bod gwaith Anthem yn bwysig iawn yng Nghymru ar hyn o bryd am ei fod yn rhoi llwyfan gwych i artistiaid ifanc sy’n gobeithio dilyn a chynnal gyrfaoedd cerddorol” meddai Kizzy Crawford.

“Mae’r gefnogaeth a’r cyfleoedd sydd ar gael yn wych ac yn fy mhrofiad i, mae cael pobl sy’n eich annog ac sy’n credu ynddoch chi wrth i chi gychwyn arni yn help mawr i artist ifanc.”

“Rwy’n falch o fod yn llysgennad i Anthem, am fy mod i’n gwybod mor bwysig yw chwarae cerddoriaeth pan rydych chi’n ifanc, a sut gall newid bywydau” meddai Huw Stephens.

“Rydyn ni’n dwlu ar gerddoriaeth yng Nghymru, ac mae’n rhaid i’r creadigrwydd sy’n creu cerddoriaeth o bob genre gael ei annog i bawb.”