Cynhadledd ‘Summit’ – dad-bwyso’r botwm ‘pause’

Bydd cynhadledd diwydiant cerddoriaeth Cymreig sy’n cael ei drefnu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc yn cael ei gynnal yn rhithiol dros y penwythnos, rhwng 9 a 11 Ebrill.

Mudiad Bannau / Beacons sy’n trefnu’r gynhadledd arbennig dan yr enw ‘Summit’, sy’n rhad ac am ddim, ac maent bellach wedi cyhoeddi’r rhestr lawn o siaradwyr dros y penwythnos.

Pwrpas y gynhadledd ydi paratoi’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru at y cyfnod ôl-Covid, gyda chymaint o bobl sy’n gweithio yn y maes, neu eisiau gweithio yn y maes, wedi gorfod rhoi cynlluniau ar stop dros y flwyddyn ddiwethaf.

‘Rhoi’r hyder yn ôl’

Un o’r criw ifanc sy’n trefnu’r digwyddiad ydy Llew Glyn o’r grŵp Gwilym, ac mae’n gobeithio y bydd yn hwb i bobl ifanc sydd eisiau gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth.

“Mae Summit yn gyfle gwych i bobl ifanc sy’n awyddus i ddechrau gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth, ond sydd eisiau mwy o hyder neu eisiau llunio llwybr neu syniadau mwy penodol am eu rôl o fewn y diwydiant” meddai Llew.

“Mae hi’n annelwig iawn o ran beth fydd i’w ddisgwyl [wrth ddod allan o’r clo mawr], felly’n bwriad ni ydi paratoi pobl ifanc sydd yn y diwydiant yn barod, neu ag awydd i fynd i mewn i’r diwydiant, at yr hyn sydd i ddod.

“Mae ‘na elfen gryf o eisiau rhoi’r hyder yn ôl i gerddorion a gweithwyr y diwydiant yn dilyn cyfnod mor anodd, felly bydd cynhadledd Summit yn gyfle i bobl ifanc rhwydweithio hefo pobl tebyg iddyn nhw, a dysgu am sawl maes o fewn y diwydiant.”

Mae Llew hefyd yn un o’r criw sydd wedi mynd ati i fod yn greadigol wrth lenwi bwlch gigs dros y cyfnod diwethaf, gan sefydlu ‘Gigs Tŷ Nain’. Mae’n gobeithio bydd y gynhadledd yn heb i eraill ddatblygu syniadau newydd hefyd.

“‘Da ni’n gobeithio ceith Summit ddylanwad bositif ar bobl ifanc sydd wedi gorfod rhoi eu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth ar pause neu wedi gorfod gohirio chwilio am waith yn y diwydiant oherwydd y pandemig.

“Hefyd, efallai bydd pobl yn gadael y gynhadledd â syniadau hollol newydd am lwybrau gyrfaol o fewn y diwydiant – ‘da ni eisiau ysbrydoli pobl ifanc, a thynnu eu sylw nhw at bosibiliadau’r diwydiant.”

Cadarnhau sesiynau

Roedd Bannau eisoes wedi cyhoeddi peth o’r arlwy yn ddiweddar ond bellach mae’r rhestr yn llawn ac ymysg yr enwau newydd mae Harry Hambley, sy’n fwy adnabyddus dan yr enw Ketnipz, fydd yn siarad am ddatblygu brand.

Bydd Sophie Williams, sydd wedi ysgrifennu i The Guardian, NME, Dork a mwy, yn ymuno â Rebecca Llewellyn (Becky and the Bands), Owain Schiavone (Y Selar) ac Harriet Fisk (The Independent) i siarad am y don newydd o tastemakers sy’n siapio synau’r dyfodol.

Bydd y TikTokwr Cymraeg Ellis Lloyd Jones yn siarad am greu cynnwys, tra bydd Asha Jane, Blankface, Simon Parton a Tumi Williams yn trafod datblygu gyrfa bortffolio.

Bydd Alexandra Jones (Under the Moon) yn cael cwmni Lily Beau wrth siarad am fyd A&R a sut gall pobl ifanc gymryd rhan, a bydd Lily hefyd mewn sgwrs ar wahân gyda Faith Adams o Neighbouring Rights i siarad am ffyrdd i gerddorion wneud arian o’u gwaith; perffaith ar gyfer cerddorion a rheolwyr ifanc sydd eisiau helpu artistiaid.

Bydd Nannon Evans (PYST) a Sarah Morgan Creative (Traxx, Jukebox Collective) yn ymuno ag Ellie Wood (Mondaay Media) i siarad am fyd PR. Bydd Ilana Held yn cynnal gweithdy cyfansoddi, tra bydd Minty o Gig Guide to Cardiff yn siarad gyda tri o’r hyrwyddwyr ifanc gorau yng Nghymru- Endaf Roberts (High Grade Groves), Luke Priestley (Stereo brain Records) a Caitlin Whelan (CLW)- am eu profiadau nhw a’r hyn mae’n nhw’n feddwl o ddyfodol y sin.

Yn ychwanegol at hyn i gyd bydd Casper James (Telegate) yn ymuno â Lloyd Best (Dead Method), Faye Tigued (Roship Teahouse) a Shash Appan (Trans Mutual Aid Cymru) i siarad am eu cymuned o fewn sîn gerddoriaeth LGBQTAI+. Bydd Mace the Great yn ymuno â Sizwé, James Prendergast ac Andrew Ogun i siarad am gyflwyno negeseuon pwerus mewn ffordd greadigol.

Mae llesiant wrth gwrs wedi bod yn bwnc trafod pwysig iawn yn ddiweddar ac mae’r gynhadledd yn rhoi sylw amlwg i hynny. Bydd Julie Britton o Commit2Action, sydd wedi gweithio gyda phrosiect Forte a thîm rygbi’r Gweilch, yn cyflwyno sesiwn yn y prynhawn; bydd Gwen Goddard yn cynnal gweithdy ar gymorth cyntaf iechyd meddwl, a bydd My Creative Brain yn cyflwyno samplau o’u sgyrsiau ac mae’r cerddor o Gymru, Jack Kelshaw, wedi creu trac myfyrdod unigryw i’r ardal.

Bydd fideos sydyn hefyd gyda Tom Howitt (fideograffydd) ar osod targedau, y cerddor clasurol Kate Parry ynglŷn â sefydlu busnes eich hun, Qye a Gabriel o Anthem ar recordio adra, Gigs Ty Nain ar ffrydio byw a Sarah Jones o FOCUS Wales.

Blwyddyn rybish

Mae Llew Glyn yn un o grŵp o bedwar o ymgynghorwyr ifanc (16-25 oed) sy’n gyfrifol am drefnu ‘Summit’ ar ôl adnabod yr angen am gefnogaeth i bobl ifanc sydd am weithio yn y diwydiant ar ôl y cyfnod clo.

Ar ôl gorfod gohirio cychwyn eu gyrfaoedd am flwyddyn gyfan, mae Summit yn gyfle iddyn nhw ail-gysylltu gyda’r diwydiant, a chael mewnwelediad i sut gallen nhw weithio yn y diwydiant. Un o’r ymgynghorwyr eraill ydy Alexandra Jones….

“Mae wedi bod yn flwyddyn rybish i’r diwydiant cerddoriaeth, yn enwedig i’r bobl ifanc fel fi sy’n awyddus i gychwyn eu gyrfa ond wedi gorfod ei ohirio” meddai Alexandra.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru gofrestru ar gyfer y gynhadledd yn rhad ac am ddim ar wefan Bannau.

“…‘snam angen bod yn gerddor nac yn gyfansoddwr” meddai Llew Glyn.

“Mae ‘na amrediad o ddigwyddiadau ar draws y penwythnos, o fideos cyflwyniadol i feysydd yn y diwydiant, i sgyrsiau manylach ag arbenigwyr am sut i fireinio sgiliau a datblygu llwybr gyrfaol cliriach.

“At bobl ifanc 16-25 mae’r gynhadledd yn cael ei thargedu, ond tydi hynny ddim yn reol o gwbwl – mae ‘na groeso i unrhyw un sydd wedi meddwl am ymuno â’r diwydiant cerddoriaeth, yn y diwydiant yn barod, neu hyd yn oed ond yn gweld cerddoriaeth fel hobi a ffansi dysgu am y posibiliadau sydd gan y diwydiant i’w gynnig.”