Fersiwn ‘Gwenwyn’ gan Urdd Gobaith Cymry x TG Lurgan

Mae prosiect sy’n dod â phobl ifanc o Gymru ac Iwerddon ynghyd i greu fideos cerddoriaeth Cymraeg a Gwyddeleg, wedi rhyddhau eu hail gynhyrchiad ddydd Iau diwethaf, 22 Ebrill.

Ym mis Ionawr daeth  aelodau o’r Urdd a phrosiect ieuenctid TG Lurgan yn Iwerddon ynghyd i gyhoeddi fideo ‘Golau’n Dallu / Dallta ag na Solise’, sef addasiad o’r gân ‘Blinding Lights’ gan The Weeknd.

Y tro hwn, maent wedi penderfynu mynd ati i ymdrin â’r gân Gymraeg gyntaf i gael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify, sef ‘Gwenwyn’ gan Alffa.

Denodd  fideo‘Golau’n Dallu / Dallta ag na Solise’ dros 100,000 o wylwyr dros y mis cyntaf ar ôl ei gyhoeddi, ac o ganlyniad i’r llwyddiant hwnnw gwahoddwyd pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed i gofrestru i fod yn rhan o’r ail gyd-gynhyrchiad.

‘Gwenwyn / Nimhneach’ ydy’r canlyniad, ac yn ogystal â rhyddhau’r fideo, bydd yr addasiad hefyd i’w chlywed ar wasanaethau ffrydio fel Spotify o ddydd Gwener ymlaen.

Uno i greu rhywbeth cŵl

Mae’r cynhyrchiad newydd yn cynnwys cyfraniadau gan 28 o Gymry a Gwyddelod ifanc. Yn ogystal â pherfformiadau gan gantorion, mae dwy ddawnswraig wedi cydlynu coreograffi gyda’i gilydd hefyd; ceir Elan Elidir yn dawnsio o dan bont ar Lwybr Elai yng Nghaerdydd, ac Aisling Sharkey ar do adeilad Coleg Berfformio’r Phoenix yn Nulyn.

Mae aelodau Alffa yn falch iawn o weld y trac yn cael ei ryddhau ar ffurf wahanol yn ôl y prif ganwr a gitarydd, Dion Jones.

“Dwi wrth fy modd efo’r fersiwn yma o’r trac, a jest yn teimlo’n ofnadwy o freintiedig bod hyn wedi digwydd i un o’n tracs ni, ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi neud o i ddigwydd” meddai Dion.

Un o’r bobl ifanc sydd wedi cyfrannu at y trac ydy Mirain Iwerydd o Grymych, sy’n canu rhan unawd ar y fersiwn newydd.

“Dwi’n meddwl fod e mor class fod dwy wlad, dwy iaith leiafrifol wedi gallu uno i greu rhywbeth rili cŵl,” meddai Mirain.
 
Rhyddhawyd ‘Gwenwyn’ ar label Recordiau Cosh ac mae’r gân wedi cael ei ffrydio dros dair miliwn o weithiau bellach, gan gyrraedd cynulleidfaoedd yn Ewrop, De America ac Awstralia.

“Mae’n wych fod yr Urdd wedi defnyddio ‘Gwenwyn’ gan Alffa fel y gân ddiweddaraf i gael y driniaeth amlieithog,” meddai Yws Gwynedd, Recordiau Côsh Records.

“Yn ddiweddar, mae ’na artistiaid wedi bod yn chwalu muriau ieithyddol i lawr ym mhobman ac roedd Alffa’n un o’r bandiau cyntaf oddi ar label Recordiau Côsh i gael cydnabyddiaeth fyd-eang ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg.

“Mae’n atgoffa ni fod cerddoriaeth yn gyfrwng universal a does dim angen deall y geiriau, ac mae yna rywbeth wirioneddol hyfryd am glywed yr iaith Wyddeleg yn cael platfform fel hyn, hefyd – mewn undod mae nerth.”