Mae Mr Phormula wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 1 Hydref.
‘Cell’ ydy enw’r trac newydd gan y rapiwr a bîtbocsiwr talentog, ac mae wedi rhyddhau fersiwn Gymraeg a Saesneg o’r gân.
Yn ôl yr arfer mae ‘Cell’ yn arddangos dawn Mr Phormula am drin geiriau, yn ogystal â’r arbenigedd cynhyrchu mae wedi mireinio dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae ‘Cell’ yn plethu themâu positif gyda llinellau bas gwych a llais unigryw Mr Phormula yn atseinio drwyddo. Mae’n ymgais llwyddiannus arall gan y rapiwr i wthio ffiniau Hip Hop Cymraeg.
Bydd cyfleodd hefyd i weld Mr Phormula’n perfformio mewn gwyliau amlwg dros yr Hydref gan gynnwys FOCUS Wales gyda Band Pres Llareggub penwythnos yma (12:30 dydd Sul 10 Hydref @ Town Square), ac yna Gŵyl y Llais ym mis Tachwedd.
Dyma ‘Cell’: