Sengl Nadolig Tecwyn Ifan

Mae’r cerddor profiadol, ac un o hoelion wyth y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, Tecwyn Ifan, wedi rhyddhau ei sengl Nadolig newydd. 

‘Ar Nos Oleua’r Byd’ ydy enw’r gân sydd wedi’i rhyddhau ar label Recordiau Sain ers dydd Gwener diwethaf, 3 Rhagfyr. 

Carol ydy ‘Ar Nos Oleua’r Byd’ sy’n ffrwyth cydweithio rhwng Tecwyn Ifan ac Aled Lewis Evans, ac yn brosiect sy’n ymestyn yn ôl chwe blynedd mewn gwirionedd. 

Ym mis Rhagfyr 2015 roedd Aled yn ‘Fardd y Mis’ ar BBC Radio Cymru, ac ar gais yr orsaf rhoddodd Tecwyn y gerdd ar gân a’i pherfformio’n fyw ar un o raglenni’r dydd. Chwe mlynedd yn ddiweddarach, daeth cyfle i’w recordio a’i rhyddhau.

“Meddwl am blant yn actio Drama’r Geni a sbardunodd y geiriau, a’r diniweidrwydd a’r diffuantrwydd trawiadol a phellgyrhaeddol hwnnw sydd yn meddalu’r galon galetaf” meddai Aled am y gerdd. 

“Am gyfnod byr bob blwyddyn, mae’r byd fel petai’n cael ei reoli gan blant a ninnau’n cael ein cludo yn ôl i’n plentyndod am gyfnod, i adeg ‘pan oedd y byd yn iau’.” 

Amlygir y symlrwydd hwn yn nhrefniant cerddorol hudolus a swynol Tecwyn Ifan a seiniau cynnes y gitâr a’r allweddellau yn pwysleisio’r diniweidrwydd a’r rhyfeddod yn y geiriau. 

Mae’r garol Nadolig yn cloi blwyddyn arwyddocaol i Tecwyn Ifan ar ôl iddo ryddhau ei albwm diweddaraf, Santa Roja, ym mis Medi.