Sesiwn acwstig Dienw ar Lŵp

Eitem fach neis arall gan fyfres Lŵp, S4C sy’n werth tynnu eich sylw ato.

Rydan ni’n ffanso mawr o’r grŵp addawol Dienw yma yn Y Selar ac mae Lŵp wedi cyhoeddi fideo sesiwn newydd ohonyn nhw’n gwneud perfformiad acwstig o’u trac ‘Ffydd’.

Os nad oeddech chi’n gwybod, Dienw ydy’r ddeuawd o ardal Caernarfon, Twm Herd ac Osian Land a ddaeth i amlygrwydd gyntaf yn 2019 gan ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Sigaret’ ym mis Hydref y flwyddyn honno.

Mae’r grŵp ar hyn o bryd yn brysur yn gweithio ar eu halbwm cyntaf, fydd yn cael ei ryddhau ar label Recordiau I KA CHING.