Shamoniks yn ailgymysgu trac Tom MacAulay

Mae’r cynhyrchydd amryddawn, Shamoniks, wedi ailgymysgu trac anthemig y canwr Tom Macaulay, ‘Mwg Mawr Gwyn’.

Shamoniks ydy Sam Humphreys, sy’n gyfarwydd fel aelod o’r grwpiau gwerin Calan, Pendevig a NoGood Boyo ond sydd bellach hefyd yn gwneud enw i’w hun fel cynhyrchydd gweithgar. Mae Humphreys wedi gweithio gyda Eädyth, Mali Hâf a Swagath yn ddiweddar i enwi dim ond rhai.

Nawr mae Shamoniks wedi troi ei law at un o draciau’r canwr a anwyd yn Abersoch, Tom Macaulay.

Gan gychwyn ar y cledrau gyda synau ac awyrgylch cerddoriaeth y byd tawelu ynghyd â chordiau synth cain, mae’r cynhyrchydd arbrofol yn raddol ddod â seibiannau egni uchel dros linell fas sy’n tyfu’n ddwfn.

Mae hyn yn cyfosod yn berffaith sŵn lleddfol Tom “Big voice” (fel y disgrifiwyd ef gan Beth Elfyn, Radio Wales) a dewis ysgafn Shamoniks o chwythbrennau dwyreiniol ar gyfer yr alaw arweiniol.

Roedd cyfle cyntaf i glywed yr ailgymysgiad o’r trac ar raglen BBC Radio Cymru Sian Eleri wythnos diwethaf.

Yn ôl y sôn, gallwn ddisgwyl rhagor o gerddoriaeth gan Shamonis yn fuan, gan gyd-weithio gydag Eädyth a Lisa Pedrick yn benodol.