Taith Sesiynau Gorwelion

Bydd cynllun Gorwelion  BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal cyfres o berfformiadau rhithiol wythnos yma, 25-29 Ionawr, er mwyn nodi Wythnos Lleoliadau Annibynnol (Independent Venue Week).

Bydd tîm Gorwelion yn darlledu sesiynau o bump lleoliad eiconig i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru yn ystod yr wythnos gan ddathlu eu rôl hanfodol wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent cerddorol.

Y pump lleoliad ydy Neuadd Ogwen ym Methesda, Neuadd y Frenhines yn Arberth, y Galeri yng Nghaernarfon, Sin City yn Abertawe a Le Pub yng Nghasnewydd.

Amrywiaeth

Mae’r artistiaid sy’n perfformio yn y sesiynau yn cynnwys cerddorion sy’n dod i’r amlwg o sawl genre gwahanol.

Mae’r daith yn cynnwys yr artist hip hop Mace the Great; y gantores R&B, Faith; y band roc, Those Damn Crows; y brawd a chwaer wrban ifanc o Abertawe, Leila McKenzie a K (e) nz; y gantores canu gwlad Jodie Marie; y cyfansoddwr amgen Roma Mac, ac yr enigma Ennio The Little Brother.

Bydd hefyd perfformiadau unigol gan Ifan Pritchard o’r band Gwilym; y ddeuawd roc o Lanrug, Alffa; deuawd benywaidd newydd Body Water; a’r artist electro pop cyffrous o Arfon, Malan.

Y bwriad ydy darlledu’r sesiynau arbennig ganol dydd bob dydd o‘r wythnos, gyda darllediadau ar draws BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru a 6music gyda Tom Robinson.

Yn ogystal â’r perfformiadau, bydd rhaglenni dogfen bach am y lleoliadau i’w gweld ar gyfryngau cymdeithasol.

Lleoliadau’n cefnogi a thyfu talent

“Rydyn ni wedi bod yn gwylio’n ddiymadferth tra bod Covid-19 wedi cadw lleoliadau a theatrau ar gau, gan gadw cymunedau sydd angen ei gilydd ar wahân, gan ein cadw rhag gwylio, cefnogi a thyfu talent yng Nghymru, a’n cadw rhag budd iechyd, lles a thwf personol y mae cerddoriaeth yn dod inni gyd” meddai Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion.

“Mae ‘Wythnos Clybiau Annibynnol’ yn gyfle i ddathlu popeth am ein map o leoliadau o amgylch Cymru, y cynhyrchwyr a’r hyrwyddwyr y tu ôl i’r lleoliadau, a’r dalent a fyddai fel rheol yn llenwi’r adeiladau gwag â bywyd. Mae’r daith yn ddathliad o’r hyn sydd gennym, yr hyn yr ydym yn ei golli, ac yn nôd i’r dyfodol pan allwn ddod yn ôl i’r gymuned yr ydym wedi’i cholli.”

Mae nifer o’r artistiaid sy’n perfformio wedi pwysleisio pwysigrwydd y lleoliadau annibynnol hyn i ddatblygiad eu gyrfaoedd.

“Rwy’n credu bod lleoliadau annibynnol mor bwysig. Chwaraeais yn Queen’s Hall, Arberth flynyddoedd a blynyddoedd yn ôl, pan oeddwn yn cychwyn” meddai Rona Mac, o Sir Benfro.

“Rwyf wedi gweld gigs gwych yma fel Ben Howard, a Lucy Rose, ac yn ei gig codais ar y llwyfan gyda hi i ganu a downsio! Ni fyddech yn cael hynny mewn lleoliad mwy. Mae hefyd yn gyfle i chwarae – ac mae lleoedd fel Queens Hall yn anhygoel, yn arbennig iawn! ”

 

Bydd gan Gorwelion westeion hefyd yn perfformio sesiynau cartref, yn siarad am eu profiadau yn gwylio neu’n perfformio sioeau mewn theatrau, clybiau a lleoliadau cerddorol ledled Cymru, gan gynnwys bandiau roc Holding Absence, Funeral For A Friend, a Junior.

Mae Gorwelion hefyd yn chwilio am straeon y cyhoedd am leoliadau annibynnol: beth yw eich hoff leoliadau cerddorol Cymreig? Beth yw eich hoff brofiadau mewn lleoliadau cerdd? Bydd y straeon hyn yn cael eu rhannu ar draws cyfryngau cymdeithasol trwy gydol ‘Wythnos Lleoliadau Annibynnol’.

Bydd sesiynau’n cael eu darlledu trwy gydol yr wythnos ar wefan Gorwelion –  am hanner dydd bob dydd rhaglen arbennig gyda sesiynau a rhaglenni dogfen byr am y lleoliadau. Fe fydd y sesiynnau hefyd yn cael eu darlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, ac ar BBC 6Music gyda Tom Robinson.

Amserlen lawn: