Albwm Avanc – Yn Fyw

Wedi haf prysur o berfformiadau byw, mae’r prosiect gwerin uchelgeisiol, Avanc, wedi rhyddhau eu halbwm newydd.

‘Avanc – Yn Fyw’ ydy enw’r casgliad newydd o ganeuon o berfformiadau byw sydd wedi’u casglu ynghyd i arddangos yr hyn mae’r band yn gallu gwneud ar ôl haf o berfformio mewn lleoliadau ar draws Ewrop.

Mae’r albwm allan ar y llwyfannau digidol arferol ers 5 Tachwedd ar label Trac Cymru ac yn gasgliad pwerus, cyflym a di-baid.

Avanc ydy ensemble gwerin ieuenctid cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Trac Cymru yn 2017. Ers hynny maent wedi perfformio mewn lleoliadau di-rif, gan gyflwyno hud a dycnwch cerddoriaeth werin Cymru i’r byd.

Daw enw’r prosiect o chwedl yr afanc yn Llyn Tegid, sef pencadlys y band. Yn ei rhengoedd, mae rai o gerddorion gwerin ifanc mwyaf dawnus Cymru, a fu’n perffeithio’u crefft gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant mewn gweithdai, sesiynau preswyl a sesiynau mentora. Maen nhw’n perfformio eu dehongliad hwy o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn ifanc a Chymreig ym myd cerddoriaeth werin ac maen nhw’n cario’r neges hon gyda nhw i bob man.

Atgyfodi Avanc

Ar ôl toriad rhwystredig Covid, yr haf hwn, roedd Avanc yn ôl ar y ffordd gan chwarae mewn gwyliau fel Tafwyl, Celtic Connections, Blas, Sesiwn Fawr Dolgellau, a Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient.

Daethant ag egni heb ei ail i’w perfformiadau gan ennill clod beirniadol ynghyd â chymeradwyaeth aflafar. Nawr, gyda’u gigs haf wedi dod i ben, maen nhw’n troi eu sylw at ryddhau albwm fydd yn rhoi syniad i ni o’r fath o brofiad yw gwylio’r band yn fyw.

“Mae’r albwm yn dod â’n hoff draciau o’n perfformiadau yn ddiweddar at ei gilydd”, meddai gitarydd Avanc, Rhys Morris o Gaerdydd.

 Mae’n arddangos ein gallu ac rydyn ni wir wedi taflu cymaint ag y gallwn i’r prosiect. Mae gennym rai setiau clasurol gyda chlocsio a rhai arafach. Bydd yn wych dod â darn o’r hyn rydym yn ei berfformio’n fyw i recordiad y gallwn ei rannu â chi.

“Mae wir yn anfarwoli’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Ac wrth gwrs, yng ngeiriau ein pibydd Sam Petersen, “it’s banging tunes over a groove – dyma Avanc”’’.

Mae perfformiadau Avanc yn mynd â’u cynulleidfa ar daith feteorig drwy gerddoriaeth werin Cymru, a byddant yn parhau i wneud hynny ar yr albwm hwn.