Mae gwefan gerddoriaeth dwy-ieithog Klust wedi cyhoeddi eu ffansin cyntaf sydd ar gael i’w brynu nawr.
Owain Elidir Williams sy’n gyfrifol am y wefan sy’n rhoi sylw i gerddoriaeth newydd o Gymru trwy gyfrwng erthyglau Cymraeg a Saesneg. Sefydlwyd y wefan ym mis Rhagfyr 2021 ac mae wedi bod yn cyhoeddi erthyglau’n rheolaidd ers hynny, ynghyd â mix misol o ganeuon sy’n cael eu dewis gan gerddorion yn ddiweddar.
Y zine newydd ydy prosiect diweddaraf Klust ac mae’n cael ei ddisgrifio gan Klust fel ‘casgliad lliwgar o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau byrion, wedi’i weu at ei gilydd gan ysgrifenwyr o bob cwr o Gymru’.
Elfen unigryw arall o’r zine ydy ei fod yn cynnwys ffotograffiaeth wreiddiol, ac i ategu hynny mae unrhyw un sy’n prynu copi hefyd yn derbyn llun unigryw gan y ffotograffydd, ac aelod o’r band Gwilym, Rhys Grail.
Cyfleu’r hyn sydd yn mynd ymlaen
“Dwi wastad ‘di bod isio creu rhywbeth fel hyn a wastad ‘di meddwl y bysa fo’n rhywbeth fysa pobl isio fod yn rhan ohoni” meddai Owain Elidir Williams.
“Y syniad ydi bod y cylchgrawn yn cyfleu’r hyn sydd yn mynd ymlaen yng Nghymru heddiw drwy ddeg darn gwahanol.”
Deg erthygl sydd yn y zine i gyd – pump darn yn y Gymraeg a phump yn y Saesneg. Mae pob un wedi’u hysgrifennu gan awduron gwahanol sef Mared Thomas, Buddug Roberts, Huw Bebb, Issy Rabey, Esyllt Angharad Lewis, Rhys Grail, Mike Owen, Andrew Wogun, Emma Way, Dyan Williams, Aled Victor ac Owain ei hun.
“O’n i isio cynnwys darnau gan bobl dwyt ti ddim o reidrwydd yn gweld yn cynnig ei hunain i’r sin Gymraeg ac felly mae ’na deimlad ffres iawn yn perthyn i’r holl beth” eglura Owain.
“Er mai ‘mond y fi sy’n rhedeg Klust, mae’n rhywbeth collaborative iawn a dwi wastad di bod isio gweithio gyda phobl greadigol, annibynnol sy’ ddim yn ofn gwthio petha ‘chydig yn bellach na’r arfer.
“’Mond y cynta’o lawer un ydi hon felly dwi’n excited i’w datblygu hi’n bellach a gweld lle eith Klust nesa.”
Gallwch archebu’r zine ar wefan Klust nawr.