Huw V Williams yn rhyddhau ‘Ail-lonyddiaeth’

Mae’r basydd Huw V Williams wedi rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Ail-lonyddiaeth’ ar ei safle Bandcamp

Daw Huw yn wreiddiol o Fangor, ond mae bellach wedi ymsefydlu yn Llundain ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel basydd talentog.

Yn gerddor jazz yn bennaf, mae wedi chwarae gyda nifer o enwau amlwg y sin gerddoriaeth avant-garde gan gynnwys Jim Black, Huw Warren, Jeff Williams, John O’Gallagher, Peter Van Huffel ac Ivo Neame.

Mae hefyd wedi cyd-weithio gydag artistiaid cyfoes gan gynnwys Devin Gray, George Crowley, Laura Jurd ac Elliot Galvin.

Mae’r sengl newydd yn ddilyniant i’r EP pump trac, ‘Llonyddiaeth’, a ryddhawyd gan Huw nôl ym mis Mawrth 2021.

Er mai ddim ond ar Bandcamp mae hi ar hyn o bryd, bydd y sengl hefyd allan ar y llwyfannau ffrydio arferol ar 14 Ionawr.

Yn ôl Huw, mae’r trac diweddaraf o naws digon tebyg i’r EP ‘Llonyddiaeth’, wedi’i recordio yn ei gartref gyda chwpl o feicroffonau.

“Y syniad oedd creu darn lle doedd ddim llawer yn digwydd, fel gwrthgyferbyniad i weddill y stwff dwi fel arfer yn gwneud” meddai Huw wrth Y Selar am y sengl.