Pelydron i ryddhau sengl gyntaf

Bydd y prosiect cerddorol Cymraeg newydd o Firmingham, Pelydron, yn rhyddhau sengl gyntaf ar label Recordiau Cae Gwyn ar ddydd Gwener 25 Chwefror. 

Er bod Pelydron wedi cyhoeddi llond llaw o draciau ar Bandcamp cyn hyn, ‘Canghenion’ fydd y gân gyntaf i’w rhyddhau’n swyddogol fel sengl gyda label. 

Yn ôl Cae Gwyn, mae Pelydron yn endid creu cerddoriaeth sy’n cynnwys Keith Jones ar y bas, y gitâr ac ar amryw offer taro. 

Gitâr lliw banana

Magwyd Keith yng ngogledd Cymru rhwng y môr a’r mynydd cyn symud i Sheffield i ddilyn cwrs celf. Penderfynodd gefnu ar y cwrs hwnnw er mwyn chwarae bas yn y grŵp Texas Pete.

Yn ddiweddarach cafodd beth llwyddiant gyda’r grŵp pync indie Navvy – cafodd eu halbwm cyntaf yn 2009, ‘Idyll Intangible’, adolygiadau da gan yr NME a gwefan gerddoriaeth amlwg Loud and Quiet, ymysg eraill. 

Bellach, mae Keith yn byw ym Mirmingham ac aeth ati i sefydlu Pelydron ar ôl prynu gitâr bas newydd lliw banana yn ystod haf 2020. 

Mae Pelydron yn ffatri dream pop ystafell wely sy’n cymysgu alawon hamddenol gyda seiniau pync, jingle-jangle a fuzz. 

Yn ôl Cae Gwyn, bydd y sengl newydd yn arafu curiad eich calon gyda sain baradwysaidd ac effeithiau phaser, fuzz a reverb. 

Mastrwyd y sengl gan Geraint Jones ac mae’r gwaith celf gan Sleep Sparrow. Bydd allan yn ddigidol ar y llwyfannau arferol ar 25 Chwefror.