Pleidlais: Caneuon gorau Tecwyn Ifan

Llongyfarchiadau mawr i enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni, Tecwyn Ifan.

Cyhoeddwyd y newyddion i Tecwyn mewn sgwrs arbennig gyda’r cerddor a ddarlledwyd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru bore ma.

Er mwyn dathlu ei gyfraniad, ac fel rhan o draddodiad enillwyr y wobr yn y gorffennol, mae’n briodol i ni redeg pôl piniwn i ddewis rhestr 10 uchaf caneuon Tecwyn Ifan . Mae cymaint ohonyn nhw’n glasuron, fydd hon ddim yn dasg hawdd!

Rydan ni wedi llunio’r rhestr hir isod i wneud bywyd bach yn haws i chi, ond os ydan ni wedi methu rhywbeth amlwg, croeso i chi ychwanegu at y rhestr. Gallwch ddewis tair cân yn y pôl isod.