Mae’r prosiect cerddorol newydd, Pelydron, wedi rhyddhau sengl gyntaf ar label Recordiau Cae Gwyn ers dydd Gwener diwethaf, 25 Chwefror.
‘Canghenion’ ydy enw’r sengl newydd a dyma’r trac cyntaf i Pelydron ryddhau’n swyddogol fel sengl gyda label, er bod Pelydron llond llaw o draciau wedi eu cyhoeddi ar Bandcamp cyn hyn.
Yn ôl Cae Gwyn, mae Pelydron yn endid creu cerddoriaeth sy’n cynnwys Keith Jones ar y bas, y gitâr ac ar amryw offer taro.
Magwyd Keith yng ngogledd Cymru rhwng y môr a’r mynydd cyn symud i Sheffield i ddilyn cwrs celf. Penderfynodd gefnu ar y cwrs hwnnw er mwyn chwarae bas yn y grŵp Texas Pete.
Yn ddiweddarach cafodd beth llwyddiant gyda’r grŵp pync indie Navvy – cafodd eu halbwm cyntaf yn 2009, ‘Idyll Intangible’, adolygiadau da gan yr NME a gwefan gerddoriaeth amlwg Loud and Quiet, ymysg eraill.
Bellach, mae Keith yn byw ym Mirmingham ac aeth ati i sefydlu Pelydron ar ôl prynu gitâr bas newydd lliw banana yn ystod haf 2020.
Yn ôl Cae Gwyn, bydd y sengl newydd yn arafu curiad eich calon gyda sain baradwysaidd ac effeithiau phaser, fuzz a reverb.
Keith Jones sy’n ateb cwestiynau 20:1 yng nghylchgrawn Golwg wythnos diwethaf.