Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Dadleoli, wedi rhyddhau’r cyntaf mewn cyfres o dri fideo ohonynt yn perfformio cyfyrs ganeuon Nadolig Cymraeg enwog.
Datgelodd y band yn ddiweddar eu bod yn bwriadu rhyddhau fideos o dair clasur o ganeuon Cymraeg Nadoligaidd, a’u bod wedi bod yn brysur yn recordio a ffilmio rhain yn stiwdio Coco & Cwtsh ger Caerfyrddin.
Y gyntaf o’r caneuon i ymddangos ar-lein ydy ‘Fy Nghariad Gwyn’ gan Yws Gwynedd a ryddhawyd yn wreiddiol yn 2014 – un o’r caneuon unigol cyntaf i ymddangos gan Yws.
Yn ôl y band maent wedi ceisio rhoi stamp eu hunain ar y trac, a bydd fersiynau newydd o ganeuon gan Al Lewis a Caryl Parry Jones yn ymddangos ganddynt rhwng hyn a’r Nadolig.
“Rydyn ni wedi mwynhau’n arw mynd ati a rhoi stamp Dadleoli ar ganeuon Nadolig mwyaf Cymru” meddai Jake Collins o’r band.
A hwythau ond wedi ffurfio yn 2022, mae eisoes wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i’r band ifanc wrth iddynt ryddhau eu EP cyntaf ar label JigCal ym mis Gorffennaf a gigio’n rheolaidd yn ystod y flwyddyn.
Branwen Munn sy’n gyfrifol am waith cynhyrchu’r trac, ac mae’r ffilmio a golygu gan Taliesin Evans.