Rhyddhau sengl Melda Lois ar I KA CHING

Yr artist cerddorol o ardal Y Bala, Melda Lois, ydy’r ddiweddaraf i ymuno â label I KA CHING. 

I nodi’r newyddion mae hefyd wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ar y label ers dydd Gwener diwethaf, 8 Rhagfyr.  

‘Bonne Nuit Ma Chérie’ ydy enw’r trac newydd gan Melda ac mae’n gân fydd yn taro tant gyda sawl un mae’n siŵr. 

“Cân sy’n rhyw fath o hwiangerdd i rywun sy’n stryglo” yw disgrifiad Lois o’i sengl newydd ‘Bonne Nuit Ma Chérie’. 

“[mae] am drio bod yno iddyn nhw, cario’r baich a helpu nhw gamu o’u meddwl pan mae o’n eu poeni nhw”. 

Gwneud ei marc

Magwyd Lois yng Nghwm Croes ger Llanuwchllyn, ac mae wedi creu dipyn o enw iddi ei hun dros yr haf wrth gigio’n gyson ar hyd a lled y wlad. 

Daeth i amlygrwydd wedi i ddwy o’i chaneuon gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2021. 

Mae’n un o artistiaid Cronfa Lansio BBC Gorwelion 2023, bu ar restr fer artist newydd Gwobrau’r Selar a daeth ymysg y pedwar olaf ym Mrwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Moduan. 

Lleuwen Steffan oedd un o’r beirniaid yn y gystadleuaeth honno ac roedd yn llawn canmoliaeth i Melda. 

“Rwyt ti’n dod drosodd fel introvert ac mae hynny mor hardd ac anarferol ar lwyfannau Cymraeg ar hyn o bryd. Mae’n swynol” meddai Lleuwen.

Er mai cân gysurus wrth noswylio yw ‘Bonne Nuit Ma Chérie’, mae‘ na islif pruddglwyfus yma. Fe’i cyfansoddwyd yn wreiddiol ar y gitâr, ond wrth weithio gyda’r cynhyrchydd Ifan Jones, yn Stiwdio Sain fe ychwanegwyd gwead i’r gân gan efelychu artistiaid megis Villagers a Jack Johnson.