Mae trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi manylion yr artistiaid fydd yn perfformio yn yr ŵyl eleni.
Cynhaliwyd Gŵyl Gwrw y Sesiwn Fawr fore dydd Sadwrn diwethaf, ac fe ddatgelwyd manylion arlwy’r brif ŵyl i gyd-fynd â honno.
Bydd Sesiwn Fawr Dolgellau’n cael ei chynnal ar benwythnos 20 – 23 Gorffennaf eleni gyda 42 o artistiaid yn perfformio ar draws 11 llwyfan yng nghanol tref Dolgellau. Yn ôl y trefnwyr mae’r lein-yp eleni yn cynnig cymysgedd eclectig o gerddoriaeth gwerin, roc a byd.
Ymhlith yr artistiaid cerddorol fydd yn ymddangos ar brif lwyfan yr ŵyl yng Ngwesty’r Ship y mae Dafydd Iwan ac Ar Log, Bwncath, Mared, Rusty Shackle a’r band Heisk o’r Alban.
Er fod tocynnau Penwythnos y Sesiwn Fawr wedi gwerthu allan ar raddfa gynt nag erioed, a hynny gwta wythnos ar ôl eu rhyddhau, mae dal modd archebu tocynnau ar gyfer gigs Tŷ Siamas a’r Eglwys (drwy’r wefan sesiwnfawr.cymru). Ac yn driw i wreiddiau’r ŵyl, mi fydd modd i fynychwyr fwynhau llwyfannau llai’r Sesiwn ar y prynhawn Sadwrn, yn y Sgwâr a thu allan i amrywiol dafarndai’r dref.
Ymestyn i bedwar diwrnod
Bydd yr ŵyl yn ymestyn dros bedwar diwrnod eleni. Cowbois Rhos Botwnnog a The Wilderness Yet fydd yn agor Sesiwn Fawr 2023 gyda chyngerdd arbennig yn Eglwys y Santes Fair ar nos Iau 20 Gorffennaf. Bydd Sesiwn Jazz yng nghwmni’r cerddor lleol, Richy Jones, yn cael ei chynnal yn Tŷ Siamas ar nos Wener 21 Gorffennaf, gyda thocynnau ar werth am £10 yn unig.
Ar ôl llwyddiant cyflwyno’r ardal newydd sbon llynedd, bydd y ‘Pentre’ Plant’ yn cynnig adloniant i blant a theuluoedd ar y prynhawn Sadwrn gyda sesiynau crefft, sgiliau syrcas, pypedau, paentio wynebau a llawer mwy.
Cynhelir digwyddiadau eraill yn Nhŷ Siamas ar y prynhawn Sadwrn, gan gynnwys trafodaeth banel ar faterion gwleidyddol o bwys i bobl ifanc, ‘Cylchu Cymru’ efo Gareth Evans-Jones, cyfle i weld a chlywed ffrwyth llafur y prosiect ‘Tradd-od’, a sgwrs gan Merfyn Wyn Tomos am ei lyfr diweddar sy’n olrhain hanes tafarndai Dolgellau.
Gellir prynu tocyn unigol ar gyfer gig nos Sadwrn yn Tŷ Siamas am £15 yn unig i fwynhau setiau gan rai o brif fandiau’r ŵyl sy’n cynnwys Ynys a Los Blancos.
Cynhelir cyngerdd arall yn yr eglwys ar nos Sul 23 Gorffennaf gyda Martyn Joseph a Cerys Hafana. I gloi dathliadau’r penwythnos bydd Sesiwn Gomedi yn Nhŷ Siamas, gyda setiau gan Dan Thomas, Mel Owen, Caryl Burke, Steffan Alun, Hywel Pitts a Dan Griffith.
Adeiladau ar lwyddiant yr ŵyl
Un o’r artistiaid lleol fydd yn perfformio yn yr ŵyl eleni ydy Melda Lois, ac mae’n falch iawn o’r cyfle i gael chwarae yn y Sesiwn Fawr am y tro cyntaf eleni.
“Dwi’n hynod ddiolchgar o gael y llwyfan a’r cyfle i brofi’r Sesiwn mewn ffordd newydd eleni” meddai Melda.
“Mae’r Sesiwn Fawr yn un o uchafbwyntiau’r calendr cerddorol yma yng Nghymru ac mae cael y cyfle i berfformio yma ar ôl bod yn rhan o’r gynulleidfa ers sawl blwyddyn yn rhywbeth sbesial iawn.”
Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau, mae’r ŵyl yn mynd o nerth i nerth ac maent fel trefnwyr yn awyddus i barhau i ddatblygu’r digwyddiad.
“Ein prif nod fel trefnwyr yw adeiladau ar lwyddiant yr ŵyl o flwyddyn i flwyddyn” eglura Guto Dafydd
“Yn sgil dathlu 30 mlynedd ers sefydlu’r Sesiwn llynedd, penderfynwyd eleni i lansio 3 llwyfan newydd yng nghanol y dref, symud llwyfan y Clwb Rygbi i Dŷ Siamas a chynnal ail gig yn yr Eglwys.
“Mi ydan ni’n benderfynol o barhau i gynnal naws croesawgar a chynhwysol y Sesiwn, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i artistiaid newydd a lleol fel ei gilydd. Rydym ni fel criw yn edrych ymlaen yn eiddgar at wahodd cynulleidfa newydd yn ogystal â hen ffrindiau i Ddolgellau.”
Mae arlwy lawn i’w weld ar wefan Sesiwn Fawr Dolgellau nawr.