Cyhoeddi lein-yp Gŵyl Triban

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi manylion arlwy Gŵyl Triban eleni. 

Cynhaliwyd Gŵyl Triban am y tro cyntaf llynedd ar benwythnos olaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Ninbych. Roedd yr ŵyl yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Urdd yn 2022. 

Cyhoeddwyd wythnos diwethaf y byddai’r ŵyl, sy’n gymysgedd o gerddoriaeth fyw a gweithgarwch amrywiol arall, yn digwydd unwaith eto eleni ar benwythnos 2-3 Mehefin wrth i’r Eisteddfod ymweld â Llanymddyfri yn Sir Gâr. 

Ymysg yr uchafbwyntiau cerddorol ar y nos Wener fydd perfformiadau gan Adwaith, Fleur de Lys, Morgan Elwy a Mali Hâf. 

Yna ar y nos Sadwrn, bydd llwyth o artistiaid cerddorol yn perfformio gan gynnwys Dafydd Iwan a’r Band, N’famady Kouyaté, Tara Bandito, Gwilym , Mared a llawer mwy. 

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer Gŵyl Triban nawr ar wefan yr Urdd

 

Leinyp llawn:

Dydd Gwener

Adwaith • Dros Dro • Fleur de Lys • Bronwen Lewis Music • Morgan Elwy • Mali Hâf • Queer Emporium • Podlediad Cymru o’r Gloch gyda Leila Navabi a Priya Hall • Hansh – T’isho Fforc? • Welsh Whisperer • Dadleoli • Tes Hughes • Ioga gyda Mistar Urdd • Twmpath

Dydd Sadwrn

Dafydd Iwan a’r Band • N’famady Kouyaté • Tara Bandito • Gwilym • Mared • Ble? • Eädyth • Cwtsh • Meinir Gwilym • Mellt • Endaf • Elis Derby • Glain Rhys • Mynadd • Panel siarad gyda Klust • Côr Alabama