Mae cronfa nawdd Eos wedi cyhoeddi pa artistiaid sydd wedi bod yn llwyddiannus gydag eu ceisiadau am nawdd o’r gronfa eleni.
Mae’r gronfa gerddoriaeth yn cael ei rhedeg gan yr asiantaeth hawliau darlledu, Eos, ac yn cefnogi cynlluniau fydd yn ysbrydoli cerddorion, cyfansoddwyr, artistiaid, hyrwyddwyr, trefnwyr a chynhyrchwyr o bob rhan o Gymru i gyfrannu i’r diwydiant cerdd.
Yn gynharach yn y flwyddyn roedd galwad agored am geisiadau am hyd at £1,000 (hyd at 70% o gyfanswm y costau) i gefnogi gweithgaredd yn ystod y 12 mis nesaf.
Mae’r ceisiadau buddugol eleni’n cynnwys yr artistiaid Angharad Jenkins, Gareth Bonello, Gwenno Morgan, Melin Melyn, Morgan Elwy, Pelydron a Ffenest
“Mae’n gyffrous iawn ein bod ni yma yn Eos yn medru cefnogi’r prosiectau cyffrous yma” meddai Tomos I Jones, Gweinyddwr Eos.
“Diolch i bawb wnaeth ymgeisio ac i’r panel dewis am eu gwaith.”
Dyma grynodeb o’r holl brosiectau fydd yn cael eu hariannu y tro hwn:
Angharad Jenkins – Cyfraniad tuag at recordio albwm newydd.
Prosiect Coffa Les Morrison – Cyfraniad tuag at brosiect cymunedol gan gynnwys sesiynau recordio gyda cherddorion ifanc Dyffryn Ogwen
Gareth Bonello – Cyfraniad tuag at hyrwyddo albwm newydd
Gwenno Morgan – Cyfraniad tuag at gostau perfformiadau byw
Melin Melyn – Cyfraniad tuag at gynhyrchu albwm
Morgan Elwy – Cyfraniad tuag at recordio caneuon newydd
Pelydron – Cyfraniad tuag at recordio caneuon newydd
Ffenest – Cyfraniad tuag at recordio caneuon newydd