Mae’r ddeuawd canu gwlad boblogaidd, Gethin Fôn a Glesni Fflur, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Sul 29 Ionawr.
Enw’r sengl newydd gan y ddau ydy ‘Jerry’ mae allan ar label Recordiau Maldwyn.
Roedd cyfle cyntaf i glywed y trac ar raglen John ac Alun ar BBC Radio Cymru ar y dyddiad rhyddhau.
Baglodd Gethin Fôn ar draws y geiriau “Jerry dd’oth a record i’r drws” wrth wrando ar sgwrs rhwng dwy ffrind, ac roedd yn rhaid cyfansoddi cân ar unwaith er mwyn dychmygu’r sefyllfa’n llawn.
Dyma sengl roc-gwlad, nostaljic sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan fawrion fel Bruce Springsteen a Roy Orbison ac sy’n tynnu rhywun nôl i oes a fu ble roedd cariadon yn rhannu recordiau ac addewidion bregus.
Recordiwyd y sengl rhwng Stiwdio Drwm, Llanllyfni a Stiwdio Sain gydag Osian Huw, cefnder Gethin, yn cynhyrchu ac yn chwarae’r offerynnau ychwanegol ac Ifan Emlyn Jones yn peiriannu.
Mae Gethin Fôn a Glesni Fflur wedi hen ennill eu plwy fel deuawd canu gwlad, gan werthu dros 1,000 copi o’u halbwm cyntaf, ‘Talsarn’ (Recordiau Maldwyn). Maent i’w gweld yn aml ar Noson Lawen, S4C, yn cynnal nosweithiau ar hyd a lled y wlad, a hyd yn oed wedi perfformio mewn ambell leoliad yn Wyoming, UDA.
‘Jerry’ ydy’r gyntaf mewn cyfres o senglau gan y ddeuawd eleni, gyda bwriad i ryddhau un ar ddydd Sul olaf pob mis gan eu trafod ar raglen John ac Alun. Maent hefyd yn bwriadu rhyddhau albwm sy’n gasgliad o’r holl senglau ar ddiwedd y flwyddyn.