Bydd prosiect Merched yn Gwneud Miwsig yn cynnal dau weithdy mewn cydweithrediad ag Eisteddfod yr Urdd dros y ddeufis nesaf.
Cynhelir y cyntaf o’r rhain ar benwythnos 25 a 26 Mawrth yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin lle bydd cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau jamio a chyfansoddi er mwyn creu cân swyddogol Eisteddfod yr Urdd gyda’r band Adwaith.
Bydd yr ail weithdy hefyd yn digwydd yn Yr Egin, a hynny ar 29-30 Ebrill lle bydd sesiynau recordio a chynhyrchu gyda’r gantores Hana Lili.
Mae’r gweithdai yn agored i ferched dros 16 oed ac mae modd cofrestru i gymryd rhan nawr.