Mae’r ‘siwpyr grŵp’, Pedair, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf .
‘Machlud a Gwawr’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos gan y grŵp sy’n cynnwys yr aelodau Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn, Siân James a Gwenan Gibbard.
Daw’r sengl newydd yn dilyn eu llwyddiant diweddar yn ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ac yn dilyn cyfnod prysur yn gigio ym mhob rhan o’r wlad, mae Pedair wedi bod yn ôl yn Stiwdio Sain gyda’r cynhyrchydd Aled Wyn Hughes yn recordio’r sengl.
Mae’r gân yn amlygu yr hyn sy’n fwyaf nodweddiadol o gerddoriaeth Pedair – eu harmonïau naturiol, cryf ac angerddol. Mewn sengl dyner ei naws sy’n llawn cyfriniaeth byd natur ac yn trosi’r nos yn llong a’r wawr yn aderyn, mae Pedair yn creu sain sy’n newydd a ffres ac eto’n gysurus o gyfarwydd.
Wedi ei chyfansoddi gan Meinir Gwilym yn arbennig ar gyfer lleisiau’r bedair, mae wedi ei hysbrydoli gan y byd o’n cwmpas ac yn myfyrio ar y newidiadau rhyfeddol a ddaw i’r amlwg wrth i’r haf droi’n hydref.
Am y broses o’i chyfansoddi, dywed Meinir ei bod yn un o’r caneuon hynny “sy’n llifo yn ffrwd awen eisoes, a fi oedd yn digwydd bod yr un i’w dal hi mewn rhwyd.
“Roedd hi yno’n aros i gael ei ’sgwennu ac roedd ei recordio hi, fel bob amser efo’r dair chwaer yma, yn fraint” ychwanegodd y canwr-gyfansoddwraig o Fôn.
‘Machlud a Gwawr’ yw’r gân gyntaf i Pedair ei rhyddhau ers eu halbwm cyntaf yn 2022, ‘Mae ‘na Olau’, ac mae rhagor o ganeuon ar y ffordd yn fuan iawn ynghyd â gigs dros y misoedd nesaf.
Gigs Pedair sydd ar y gweill:
Tachwedd 1-5 – Waterford, Iwerddon
Tachwedd 10 – Caernarfon, Galeri (+ Dafydd Iwan a’r Band)
Rhagfyr 1 – Duke of Wellington, Y Bontfaen,
Rhagfyr 9 – Clwb Golff, Abersoch