Mae’r canwr-gyfansoddwr cynhyrchiol o Abertawe, Geraint Rhys, wedi rhyddhau ei sengl ffrwydrol ddiweddaraf ers dydd Gwener 20 Hydref.
‘Ymdrech’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y gŵr sy’n gyfarwydd am ei ganeuon protest a negeseuon ffraeth am wleidyddiaeth, cymdeithas a bywyd yn gyffredinol.
Gydag ‘Ymdrech’, mae Geraint yn bwrw golwg ar bopeth sydd o’i le yn ein cymdeithas ni heddiw.
“Weithiau, mae’r byd yn teimlo’n ormod ac mae’n anodd peidio diflasu” eglura’r cerddor.
“Nes i ’sgwennu’r trac yma ar ôl gweithio gydag ambell i reolwr oedd yn hollol afiach ac felly mae’r trac yn adlewyrchu ar ein bywydau cyflym ni heddiw a sut gallai’r cyfryngau cymdeithasol fod yn lle tocsig.”
Er bod beirniadaeth glir yn y geiriau, mae neges bositif i’r gân hefyd.
“Mae’r gân hefyd yn adlewyrchu ar y ffaith ei fod yn OK i gasáu rhai pethau a bod angen cofio bod hapusrwydd rownd y gornel” ychwanega Geraint.
Mae ‘Ymdrech’ allan ar label Geraint ei hun, sef Akruna, ac roedd cyfle cyntaf i weld y fideo arbennig ar gyfer y trac ar wefan Y Selar ddydd Iau diwethaf, 19 Hydref.
Geraint ei hun sydd wedi ffilmio, cyfarwyddo a golygu’r fideo, ac mae’n serennu Dewi Wykes, Louis Suc, Amelie Luhede a Josie Antonucci a’r cŵn, Kenya a Rio!
Dyma’r fideo: