Moss Carpet yn ennill Brwydr y Bandiau 

Artist o Ddyffryn Nantlle, Moss Carpet, oedd enillydd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan eleni.

Prosiect cerddorol y cerddor 23 oed, Osian Jones, ydy Moss Carpet a daeth i’r brig mewn cystadlaethau yn erbyn tri artist arall sef Beth Pugh, Alis Glyn a’r band Tewtewtennau.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar Lwyfan y Maes ar ddydd Mercher yr Eisteddfod a cyhoeddwyd enw’r enillydd yn ddiweddarach. Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Glyn Rhys James o’r band Mellt, Marged Sion sy’n aelod o’r band Self Esteem, Marged Gwenllian o Y Cledrau a Ciwb, a Sion Land, sef drymiwr y band Alffa. 

Eleni hefyd, am y tro cyntaf, cynhaliwyd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau gwerin yn lleoliad Ty Gwerin ar faes yr Eisteddfod. Lo-fi Jones, y band o Fetws y Coed, ddaeth i’r brig o bedwar oedd hefyd yn cynnwys Brodyr Magee, Rhiannon O’Connor a Melda Lois.

Mae cyfle i ddysgu mwy am Moss Carpet, a gweddill artistiaid ffeinal Brwydr y Bandiau, yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar.