Mae’r band pync o Fangor, Crinc, wedi rhyddhau eu halbwm newydd.
‘Gig Cymreig’ ydy enw’r record hir sydd allan ar label Recordiau Noddfa ers dydd Sadwrn 30 Medi.
Crinc ydy’r band sy’n cael ei harwain gan y cerddor ac artist celf enigmatig, Llŷr Alun. Fe ellid eu cymharu gyda bandiau fel Jesus & The Mary Chain, My Bloody Valentine a Sonic Youth.
Daw’r albwm bythefnos ar ôl i’r band rhyddhau’r sengl ‘SRG’.
Wrth ryddhau’r albwm, mae fideo ar gyfer y trac ‘PPC’ hefyd wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C. Mae’r fideo wedi’i gyfarwydd gan Hedydd Ioan a Llŷr Alun ei hun.