Rhyddhau albwm Los Blancos

Mae’r band slacyr o Sir Gâr, Los Blancos, wedi rhyddhau eu halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 3 Tachwedd. 

‘Llond Llaw’ ydy enw’r record hir sydd allan ar label Recordiau Libertino, ac yn ôl y label mae’r albwm yn cynnwys popeth sy’n gwneud Los Blancos yn Los Blancos. 

Yma, ceir casgliad celfydd o ganeuon sy’n dangos y band o Gaerfyrddin ar eu mwyaf gonest, rhydd a chreadigol eto. 

“Mae’r albwm yn mynd yn groes i bob elfen narsisistig sy’n bodoli yn ein cymdeithas ni heddiw” ydy geiriau’r band am y record.  

“Wrth ysgrifennu’r albwm, doedden ni ddim yn meddwl am y cynllunio na mapio cysyniad penodol ar ei gyfer. Y caneuon ddaeth yn gyntaf i ni ac felly mae ’na naws gonest, amrwd a llac iawn yn perthyn i’r casgliad. Daeth hynny’n naturiol.” 

Adrodd straeon trwy lygaid Los Blancos

Cafodd yr albwm ei ysbrydoli i raddau gan gasgliad o straeon byrion Matthew Baker, ac yn benodol y dyfyniad: “Welcome, dear visitor, to a proud and storied nation. When you put down this guidebook, look around you. A nation isn’t land, a nation is people.” 

“Roeddwn i’n hoffi’r syniad hynny ac yn meddwl ei fod yn cyfateb i’r hyn yr oedden ni wedi’i greu hefyd” eglura Dewi Jones o’r band.

“Rydyn ni’n adrodd straeon drwy ein llygaid ni, yn adrodd storïau am bobl rydyn ni’n eu hadnabod.”

Tra bod eu halbwm cyntaf ‘Sbwriel Gwyn yn ymdrin â themâu sy’n adrodd eu pryderon personol a chymhlethdodau’r byd, mae ‘Llond Llaw’ yn cyfleu band sydd mewn lle llawer mwy cyfforddus, ac yn adrodd storïau am y cymeriadau o’u cwmpas. 

Yr hyn y cawn yma yw casgliad 13 trac sy’n adrodd storïau personol, geiriau didwyll a sylwadau doeth – gyda phob aelod o’r band wedi cyfrannu at lywio’r storïau hynny.  

Er bod eu hegni amrwd a’u hangerdd heintus dal yn amlwg ar eu hail albwm, mae ‘Llond Llaw’ yn dangos cynnydd clir yn natblygiad Los Blancos fel band. Yn debyg i Bukowski, Kerouac neu Tom Waits, mae Los Blancos yn gweld y da yn y drwg a’r harddwch yn yr amherffaith. 

Roedd cyfle i weld Los Blancos yn perfformio caneuon yr albwm newydd yn fyw mewn gig lansio yn Cwrw, Caerfyrddin nos Wener diwethaf, 3 Tachwedd a byddan nhw’n perfformio yn The Bunkhouse, Abertawe ar 25 Tachwedd.

Gigs Los Blancos

25/11/23 – The Bunkouse, Abertawe 

17/02/24 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd 

Dyma ‘Ffuglen Wyddonol’ o’r albwm: