Rhyddhau sengl gyntaf Ffenest

Mae’r band newydd o Ddyffryn Conwy cy’n cynnwys criw o gerddorion cyfarwydd wedi rhyddhau eu sengl gyntaf er dydd Gwener diwethaf, 15 Rhagfyr. 

Ffenest ydy’r band newydd o Eryri sy’n cynnwys talentau’r cerddorion profiadol  George Amor (Omaloma, Sen Segur), Ben Ellis (Phalcons, Sen Segur), Alex Morrison (Cate le Bon, H Hawkline) a Guto Evans (Malan, Crinc).

Enw eu sengl newydd ydy ‘Rhywbeth Arall’ ac mae allan ar label Cae Gwyn. 

Mae ‘Rhywbeth Arall’ yn dynodi dechrau eu taith, ac yn flas o’u cerddoriaeth Dream pop wedi’i ysbrydoli gan bawb sydd ynghlwm â’r grŵp.

Bu i Ffenest ymddangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd y llynedd, a’u hail ymddangosiad byw oedd wrth gefnogi Gruff Rhys mewn noson arbennig ym Mhenmachno. Ers hynny mae’r gigs wedi pentyrru.

Mae ‘Rhywbeth Arall’ ar gael ar y llwyfannau digidol arferol nawr.