Mae label Recordiau Sain yn parhau â’r gwaith o ddigido eu harchif gerddorol, ac wedi rhyddhau mwy o gynnyrch am y tro cyntaf ar y prif lwyfannau digidol.
A hwythau eisoes wedi rhyddhau ugain o recordiau cyntaf yr is-label, Crai, yn ddiweddar, deg record nesaf Crai ydyr’r cynnyrch diweddaraf i gael eu rhyddhau’n ddigidol am y tro cyntaf.
Ffurfiwyd yr is-label Crai gan Sain ym 1988 gyda’r bwriad o roi cartref i gerddoriaeth mwy amgen gan fandiau ifanc yn bennaf.
Rhyddhawyd y naw record rhifau 21-30 label Crai mewn cyfnod byr yn ystod 1992.
Yn ôl Sain mae hwn yn gasgliad eclectig, amrywiol o recordiau yn cynnwys cerddoriaeth mewn sawl arddull a ‘genre’ – y cyfan yn adlewyrchu bwrlwm cerddorol dechrau’r 90au yng Nghymru.
O bop pur a cherddoriaeth ddawns i werin a roc, roedd y cyfan ar label Crai. O lais nodedig Jackie Williams i grwpiau Cymraeg newydd ifanc fel Yr Addewid a Soriant ac o leisiau newydd i’r sin gerddoriaeth Gymraeg, fel One Style MDV, i grwpiau fel Bob Delyn a’r Ebillion a Moniars, roedd Crai yn label a oedd yn ateb y galw, ac yn rhan o don newydd o labeli a oedd yn cynnal ac yn arwain y sin.
Mae addewid fod mwy o gerddoriaeth o archif Sain ar y ffordd.
Dyma’r recordiau dan sylw sydd ar gael ar y llwyfannau digidol am y tro cyntaf ers 29 Tachwedd:
CRAI 21- Gedon – Bob Delyn a’r Ebillion
CRAI 22 – Sleim a Sdwnshcin – Sdwnsh
CRAI 23 – Nadolig Llawen – Bechingalw
CRAI 24 – Fe Godwn Eto – Moniars
CRAI 25 – Lle Dwi Isio Bod – Tynal Tywyll
CRAI 26 – Rhyddhad – Yr Addewid
CRAI 27 – Tria Welti – Soriant
CRAI 29 – International Struggle – One Style MDV
CRAI 30 – Dwylo – Jina