Sengl Nadolig Daf Jones

Mae’r canwr-gyfansoddwr o Fôn, Daf Jones wedi rhyddhau ei sengl newydd, a gan ystyried amser y flwyddyn, nid yw’n syndod mai trac Nadoligaidd ydy hon. 

‘Amser yr Ŵyl’ ydy enw’r cynnig diweddaraf ganddo ac fe’i recordiwyd  yn Stiwdio Ryn Rhos, Ynys Môn gyda’r cynhyrchydd Rhys Jones. 

Yn ôl Daf, mae’r gân yn edrych yn ôl ar ei blentyndod a’i atgofion teuluol o gyfnod y Nadolig.  

“Mae hi’n gân am blentyndod a treulio adeg y Nadolig hefo teulu” meddai’r cerddor

“Mae hi’n sengl teimladwy ac yn gân sydd yn adeiladu i grescendo mawr ar ei ddiwedd – sydd yn amlwg yn Nadoligaidd ond hefo fy stamp innau arni hi hefyd.

“Mae’n gân wnes i ysgrifennu ychydig o flynyddoedd yn ôl bellach ond erioed wedi mynd a hi i’r stiwdio hyd nes yn ddiweddar pan gefais i’r awydd i recordio fy sengl Nadolig cyntaf un.”

Mae’r trac newydd yn dilyniant i sengl ddiweddaraf Daf, ‘Pry Cop’, a ryddhawyd ym mis Mai eleni.